Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd o fy nghwmpas i acw." "Yr wyf yn deall hyny," ebai yntau, "ond a ddarfu i chwi allu cadw yn glir heb daro wrthynt, a phardduo eich gwisg?" "Do, cefais fy nghadw yn rhyfedd; aethum i'm tŷ, a rhoddais glo ar y drws, nes aeth yr ystorom heibio; wedi hyny aethum i edrych fy hun yn 'hen ddrych y cysegr,' yr hwn oedd ar y ford yn y tŷ, ac edrychais fy hun o'm coryn i'm sawdl, a round about, ac ni ellais weled yr un ysmotyn wedi ei splasio o'r helynt fu acw ddoe. Er fy mod, fel mae'r gwaethaf, wedi bod yn rhy agos i grochanau duon lawer gwaith yn fy ngyrfa grefyddol trwy'r byd, yr wyf yn disgwyl gweled boreu pryd na bydd arna i 'na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw.'" Ebai yr hen flaenor, "Ni feddaf ddim i ddweyd wrthych, ond gwyn eich byd."

John Griffith, y gof, a William Griffith, y gwŷdd, oeddynt ddau frawd yn byw yn ardal y Parcel. Ystyrid y ddau yn grefyddol, ac o'r iawn stamp. Ond gan fod y ffordd yn bell, a'r gwaith gôf yn gofyn cadw ato yn gyson, esgeulusai John Griffith y cyfarfod eglwysig ganol yr wythnos. Ac yn ei ddyddiau ef yr oedd yn rheol i ddisgyblu os byddai aelod wedi colli tri thro. Nos Sul yn unig y ceid gafael ynddo. Pan y caed cyfle felly unwaith, cyfodai un o'r hen flaenoriaid i fyny, a dywedai, "Mae John Griffith yma heno; oes genych chwi rywbeth i'w ddweyd, John Griffith, dros eich bod yn esgeuluso y seiat?" "Hawdd iawn i chwi siarad, y rhai sydd yn byw yn y fan yma yn ymyl y capel," ebai yntau. "Yr ydw i yn y fan acw gyda fy ngwaith, a'r bobol yn dyfod a'u ceffylau acw i'w pedoli," &c. Ar ol hyny cyfodai blaenor arall, ac ymosodai yn drwm arno oherwydd esgeuluso y moddion. Yntau a gymerai y drinfa mor dawel ag un o'r ceffylau a arferai bedoli. Yna ar y diwedd denai un o'r blaenoriaid ymlaen a dywedai, "John Griffith i ddibenu." Cyfododd yntau i fyny, a