Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/321

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddodd y penill canlynol-yr hwn y methasom a chael ei ddiwedd-allan,-

"Daw gwyr y mulod mân
A'r elor-feirch ymlaen
I Seion fryn," &c.,

ac aeth i weddi mewn llawn hwyl, nes toddi pawb yn y lle. Yr oedd yn y capel sêt bwrpasol i rai fyned iddi os byddent am ddweyd eu profiad, a gelwid hi sêt profiad. Ar ol marw Mr. Griffith, Shop fawr, John Ellis oedd y blaenor hynaf, ac efe wrth ei swydd a arferai ofyn y cwestiwn, "Oes yma neb a ddywed air o barodrwydd meddwl."

Rhoddid disgyblaeth mewn grym i'r graddau manylaf yn yr eglwys hon. Nid yw yn hawdd penderfynu, weithiau, pa un i ryfeddu ato fwyaf, llymder y blaenoriaid yn disgyblu, ynte dioddefgarwch yr aelodau yn cymeryd eu disgyblu mor ddidramgwydd. Nid oedd y radd leiaf o drugaredd i'w chael am ieuo yn anghydmarus. Torid allan ar unwaith os ceid fod aelod yn cyfeillachu gydag un o'r byd; ni roddid amser i weled pa un a fyddai i'r pleidiau droi yn ol cyn myned i'r stât briodasol ai peidio.

Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid a'r pregethwyr fuont feirw, y mae nifer o aelodau eraill yr eglwys yn deilwng o goffadwriaeth. Mrs. Meredith oedd wraig a berchid yn fawr yn y dref am flynyddoedd lawer. Yr oedd hi o sefyllfa dda yn y byd; ar gyfer ei henw yn llyfr yr eglwys yn 1810 ceir 28. 6c. yn y mis at y weinidogaeth, sef y swm uchaf ar y rhestr. Yr oedd ei thŷ hi yn un o'r ychydig oedd yma yn enwog am letya pregethwyr. Heblaw bod yn un o'r ffyddloniaid, yr oedd ynddi ysbryd gwrol, a chymerai ran gyhoeddus gyda dygiad ymlaen yr achos. Wele engraifft o hyny.-Yr oedd brawd ieuanc, o dueddiadau uchelfrydig, yn yr eglwys eisiau cael myned i bregethu. Dygwyd ei achos ymlaen yn y