Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfarfod eglwysig. "Feallai y gwnewch chwi ddweyd," ebai y blaenor, "beth sydd wedi bod yn eich cymell i feddwl am bregethu." "Wel," ebai y gŵr ieuanc uchelgeisiol, "ofn oedd arnaf rhag cuddio fy nhalent yn y ddaear." Cyfodai Mrs. Meredith ar ei thraed, a dywedai, "Wil, rhaid i ti yn gyntaf ddangos dy fod yn meddu ar dalent." Bu Mrs. Meredith farw Mehefin 23, 1832. Gwen Jones, mam y Parch. Rees Jones, oedd wraig nodedig o grefyddol, a chyfodai ar ei thraed i siarad yn y seiat. Yr oedd y pregethwr unwaith yn pwyso yn lled drwm arni, yn drymach nag y dymunai rhai, am sicrwydd ei chrefydd. Wedi bod yn ddistaw am enyd dywedai, "Yr wyf wedi cael digon o sicrwydd ar y daith na ddemnir mohonof." Gadawodd ei dywediad argraff anarferol ar y seiat. Mary, Betty, Jane, Barbara, a Miriam Ellis, chwiorydd i Moses Ellis, a merched i John Ellis y pregethwr, oeddynt oll tuhwnt i'r cyffredin o grefyddol. Mrs. Griffith, y Cei, gweddw y Cadben Griffith, a fu yn nodedig o ffyddlon mewn lletya pregethwyr. Yr oedd wedi bod yn gwasanaethu pan yn ieuanc mewn lle y lletyai pregethwyr, ac fe'i gwnaeth yn fater gweddi i ofyn i'r Arglwydd am i'w choelbren ddisgyn lle byddent hwy yn aros, a chafodd ei dymuniad. Margaret Lloyd, y Mangle; Ellin Griffith, Margaret Edwards, Jane Morris, Gellfechan; a Mrs. Dedwydd, oeddynt wragedd crefyddol yr eglwys. Thomas Bywater fu yn ŵr defnyddiol i'r achos yma. Genedigol oedd ef o Gaersws, ac ysgolfeistr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn y Dyffryn yn 1806. Symudodd i'r Abermaw, ac efe a barotodd lyfr Cofnodion cyntaf yr eglwys yn 1810. Dywedir mai efe a ddygodd achos crefydd i drefn gyntaf yn nosbarth y Dyffryn yn nechreu y ganrif. Ymadawodd oddiyma oddeutu 1827 i Ffestiniog neu Drawsfynydd. Sydney Davies oedd yn ddyn nefolaidd ei ysbryd. Cafodd dröedigaeth hynod rymus, yr hyn a'i gwnaeth yn grefyddwr gafaelgar. Cadben Lewis Dedwydd,