Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn gystal a'i briod, oedd ymysg ffyddloniaid yr eglwys. Thomas Martin, Harbour Master, a gyfrifid yn ŵr parchus yn y dref. Cafodd dröedigaeth amlwg yn niwedd ei ddyddiau, wrth wrando Cadwaladr Owen yn pregethu. Cyflwynodd ei hun i'r eglwys y noswaith yr argyhoeddwyd ef, a dywedai yn gyhoeddus, "Dyma fi yn rhoi fy hun fel yr wyf; mi glywais rywbeth yn dweyd wrthyf, Tyr'd, Thomas Martin, fel yr wyt ti.'" Dywedai cyn ymadael â'r byd, mai pedair oed ydoedd, am mai pedair blynedd a fu yn proffesu crefydd. Yn fwy diweddar, un a fu yn flaenllaw gyda'r achos am flynyddoedd lawer oedd Evan Richards. Mewn cadw cyfrifon, gofalu am yr achos yn allanol, a lletya pregethwyr, gwnaeth lawer o wasanaeth yn ei ddydd. Humphrey Jones, y crydd, er nad oedd yn flaenor, a fu yn flaenllaw gyda'r achos. Efe am flynyddoedd lawer fyddai yn cyhoeddi yn y moddion cyhoeddus. Bu farw Medi 26, 1868, yn 78 oed. John Richards, Hendre-mynach, a gafodd dröedigaeth hynod. Un rough yn ei ffordd ydoedd, ond nodedig o selog, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Griffith Edwards, hefyd, oedd un a ddygai fawr sel gyda'r achos, ynghyd a llu mawr eraill o bererinion na chafwyd eu henwau.

Digwyddodd anghydwelediad rhwng y blaenoriaid yma ychydig cyn Diwygiad 1859-60, yr hyn am dymor a filwriodd yn erbyn llwyddiant crefydd yr eglwys. Anfonwyd cenhadon o'r Cyfarfod Misol amryw weithiau i geisio gwastadhau yr anghydfod. Wedi i chwech o frodyr fod yno dros y frawdoliaeth yn gwneuthur y cais olaf at ymheddychu, yn Nghyfarfod Misol Pennal, Chwefror 1858, rhoddodd y brodyr hyn adroddiad o'u hymweliad, yr hyn a gynhwysai eu bod yn cael allan fod pob gonestrwydd wedi ei arfer ymhob amgylchiad mewn dwyn yr achos yn ei flaen. Y penderfyniad y daethpwyd iddo, ac a gadarnhawyd yn y Cyfarfod Misol hwn, oedd, "Mai y prif achos o'r anghydfod presenol oedd pellder y swyddogion