Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/324

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrth eu gilydd, a'r duedd oedd yn y naill i gario pethau ymlaen heb ymgynghori â'i frodyr, ac yr oedd hyn i'w ganfod nid mewn un o honynt, ond ynddynt oll. Yr oeddynt wedi cydfarnu [sef y pwyllgor] mai eu doethineb oedd cynghori y swyddogion i ystyried eu hunain, am dymor o'r hyn lleiaf, ond fel aelodau cyffredin yn unig; a ffurfiwyd pwyllgor gweinyddol, yn cynwys y blaenoriaid ac wyth o bersonau eraill, i arolygu yn y cyfamser holl amgylchiadau yr achos." Bu yr eglwys yn y stat yma, heb neb yn flaenoriaid ffurfiol arni, am dair blynedd.[1]

Y mae un yn awr yn fyw a fu yn blaenori, ac yn weithgar gyda'r achos yma dros dymor hir, sef Mr. John Timothy, blaenor eglwys y Friog. Dewiswyd ef i'r swydd yn Abermaw yn y flwyddyn 1853. Yma y dechreuodd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, bregethu. Ymddiddanwyd ag ef gyntaf yn Nghyfarfod Misol Chwefror, 1867. Yn haf y flwyddyn 1864, symudodd y Parch. D. Davies yma o Gorwen, ar ei ymsefydliad fel gweinidog rheolaidd yr eglwys. Ac yn mis Mawrth 1874, rhoddodd ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Bu y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn weinidog yma o 1875 i 1887, pryd y rhoddodd yntau ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Y Parch. J. Gwynoro Davies yw y gweinidog yn awr er 1887. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Owen Griffith, David Williams, William Williams, Lewis Lewis, E. R. Jones, John Jones.

Nifer y gwrandawyr, 650; cymunwyr, 383; Ysgol Sul, 556.

Y BLAENORIAID AR OL Y CYFNOD CYNTAF.

CADBEN EDWARD HUMPHREYS.

"Daeth ef i arddel yr Iesu a'i achos yn hoewder ei

  1. Y mae yr eglwys wedi bod yn ffyddlawn gyda holl achosion y Cyfundeb, ac yn enwedig i gynal Cyfarfodydd Misol y sir. Bu yma un Gymdeithasfa Chwarterol, yr hon a gynhaliwyd Ebrill, 1877.