Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyddiau." Ei gymeriad oedd, "dyn ymroddgar, prydlawn, a phenderfynol gyda phobpeth yr oedd a wnelai âg ef, pa un bynag ai gwladol ai crefyddol." Yr oedd yn awyddus i wneuthur daioni i'w gyd-ddynion, tra yr oedd ei orchwylion ar y môr. Fe'i neillduwyd yn flaenor i ofalu am y morwyr; gwnaeth yntau hyny gyda ffyddlondeb yn y porthladdoedd a manau eraill y caffai gyfleusdra. Oddeutu 1839, gadawodd y môr, ac arhosodd gartref gyda'i deulu, a bu o wasanaeth i grefydd hyd ddiwedd ei oes. Bu yn gwasanaethu ei gydforwyr yn y Cambrian Union yn Llundain yn ei dro am flynyddoedd. Cynghorai y morwyr ar eu mynediad allan i'r môr am iddynt wneyd eu cartref yn nghysgod yr Hollalluog, ac yna y byddent ddiangol, doed colli llong, doed boddi, ac fel cymhelliad iddynt dywedai yn aml, i Ragluniaeth fawr y nef ei gysgodi ef am y deugain mlynedd y bu yn ymladd â geirwon donau y môr. Mynych yr adroddai am waredigaethau hynod a gafodd yn ei fordeithiau. Yr oedd yn un o ddirwestwyr goreu Cymru. Bu yn llywydd y gymdeithas ddirwestol yn Abermaw hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Mehefin 10, 1858, yn 79 mlwydd oed.

GRIFFITH DAVIES.

Yr ydoedd yn wyr i'r hen bregethwr ffyddlawn, Gruffydd Sion, Ynys y Pandy, yn Sir Gaernarfon, wedi hyny o'r Sarnau, Sir Feirionydd, ac yn fab i Sydney Davies, dduwiol, un o aelodau cyntaf eglwys y Methodistiaid yma. Cafodd ei ddwyn i fyny felly mewn teulu crefyddol, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn un ar bymtheg oed. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn athraw da yn yr Ysgol Sul, ac efe am dymor mawr oedd arweinydd y canu. Gŵr tyner a llednais ei ysbryd, yn meddu duwioldeb diamheuol, yn amlwg mewn gweddi, ac ymroddgar gyda holl ranau y gwaith. Dewiswyd ef yn flaenor pan yn lled ieuanc, yr hon swydd a wasanaethodd yn ofalus, hyd ei