Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/327

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1860, yn 64 mlwydd oed, wedi bod yn aelod dros ddeugain mlynedd, ac yn ddiacon am ddeng mlynedd ar hugain.

RICHARD JONES.

Neillduwyd ef i'r swydd o flaenor yn 1861, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn mis Ebrill y flwyddyn hono. Yr oedd ef o gymeriad difrycheulyd, a thynodd ei gwys i'r pen yn uniawn. Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am dano yn Nghyfarfod Misol Mehefin, 1880.

HUGH WILLIAMS, CAMBRIAN HOUSE.

Byr iawn fu ei dymor ef yn y swydd o flaenor. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mai 4, 1885, ac yn mis Medi yr un flwyddyn yr oeddis yn gwneuthur sylwadau coffadwriaethol am dano. Yr oedd yn weithgar iawn gyda chrefydd rai blynyddoedd cyn ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn wr o farn ac yn ŵr o gyngor, yn gyfaill serchog a llawen, ac yn Gristion disglaer. Pe yr estynesid ei oes, yn ol pob tebyg, buasai yn ddyn tra defnyddiol i'r achos. Yn ei dy ef y blynyddoedd diweddaf y lletyai y pregethwyr, y rhai fyddent, yn ddieithriad, yn hoff o'i gymdeithas.

MORRIS JONES.

Genedigol o'r Dyffryn ydoedd Morris Jones; mab i'r hen flaenor adnabyddus Sion Evan, Caetani. Magwyd ef ar aelwyd grefyddol, a thyfodd i fyny yn ŵr ieuanc dichlynaidd a hardd ei rodiad. Tynai sylw y pryd hwnw fel un tebygol o wneuthur dyn defnyddiol. Bu am flynyddoedd yn arwain y canu cynulleidfaol yn y Dyffryn. Ar gychwyniad yr achos dirwestol daeth allan yn gryf o blaid y symudiad; bu ar daith, oddeutu 1810, gyda'r Hybarch Mr. Humphreys, trwy ranau o'r Deheudir, yn areithio ar ddirwest. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Dyffryn, yn ol ei gyfrifiad ef ei hun, yn y flwyddyn 1838, yn un o chwech a neillduwyd gan yr eglwys