Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hono yr un adeg. Gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn hyd nes y symudodd o'r ardal i fyw. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn agos i'r Abermaw, ac yr oedd yn flaenor cymeradwy yno i'r diwedd. Yr oedd yn ŵr heddychlon, tyner, llednais, a hoffus gan bawb. Tynodd ei gwys i'r pen yn uniawn, heb genfigenu wrth neb, ac heb dynu gwg neb yn ei erbyn ei hun. Cymerwyd ef i'r orphwysfa nefol yn mis Chwefror, 1890, pan o gylch 79 oed, a dygwyd y rhan farwol o hono i'r beddrod yn y Dyffryn, ar y 25ain o'r un mis.

Y PARCH. EVAN ROBERTS.

Mab oedd ef i un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yma y dygwyd ef i fyny, ac y dechreuodd bregethu; ac wrth yr enw Evan Roberts, y Bermo, yr adwaenid ef bob amser. Symudodd oddiyno i Arthog tua'r flwyddyn 1835; a symudodd o Arthog drachefn i Sir Drefaldwyn yn 1854, ac yno y bu farw.

Y PARCH. REES JONES, FELIN HELI.

Hysbys ydyw mai brodor oedd ef o'r Abermaw. Sonir llawer hyd heddyw am ei fam, Gwen Jones, fel un o wragedd parchusaf a mwyaf crefyddol yr eglwys. Dyn crefyddol a difrifol yr ystyrid yntau er yn ieuanc. Bu am dymor yn yr Amwythig; ac ar ol dychwelyd adref i'r Abermaw, adroddai bregeth o eiddo y Parch. Henry Rees yn y seiat gyda dwysder anghyffredin, a dyma y pryd, ebai un o frodyr hynaf yr eglwys, y daeth i sylw gyntaf. Nid ydym yn sicr pa bryd y dechreuodd bregethu, ond yr oedd yn rhywle o 1835 i 1840. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844, a bu yn pregethu yn agos i haner can mlynedd. Symudodd i'r Felin Heli, yn Sir Gaernarfon, yn nechreu 1847. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 4ydd y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-" Coffhawyd am ymadawiad y brawd Rees Jones, o'r Abermaw, i Sir Gaernarfon i fyw-a dangoswyd ein bod yn mawr deimlo yn herwydd hyny."