Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Colled fawr i'r sir hon oedd ei golli, oblegid yr oedd yn ŵr o ddylanwad, a gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd o fewn y cylch y troai ynddo, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Parhaodd ar hyd ei oes i lenwi lle pwysig ymhlith y Methodistiaid. "Er nad oedd ei draddodiad o'i bregethau yn cael eu nodweddu gan rwyddineb, eto yn lled fynych, ac yn fwy mynych yn ystod y deng mlynedd diweddaf, byddai ei weinidogaeth mewn nerth mawr. Yr oedd ef yn un o'r colofnau yn ei Gyfarfod Misol. Ymgynghorid ag ef ymhob achos dyrus. Ac nid yn y Cyfarfod Misol y perthynai iddo yn unig yr oedd ei allu a'i werth yn cael ei gydnabod, yr oedd felly yn y Cymanfaoedd." Bu farw mewn modd anghyffredin o sydyn, tra yn y weithred o gyfarch y frawdoliaeth yn Nghyfarfod Misol y Gatehouse, Tachwedd 18, 1885.

Y PARCH. DAVID DAVIES.

Bu y Parch. David Davies yn preswylio yn Abermaw o gylch tair blynedd ar hugain. Llafuriodd yn egniol gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, ac mae ei enw wedi bod yn hysbys fel gweinidog cymeradwy trwy holl gylchoedd y Methodistiaid; oherwydd y naill a'r llall o'r pethau hyn, teilynga goffhad ymysg enwogion crefydd yn y sir. Ganwyd ef yn Mhenmachno, yn y flwyddyn 1815, ac mae ei enw mewn rhai cylchoedd yn fwy cysylitiedig â'r lle hwnw hyd heddyw. Yr oedd ei dad yn ŵr o ddoniau llithrig, a chyrhaeddodd yr oedran teg o 89. Cafodd fam grefyddol, yr hon a gysegrodd ei bachgen yn foreu i'r Arglwydd. Arferai yntau weddio yn dra ieuanc, a thynai ei lais peraidd a soniarus wrth weddio a chanu sylw neillduol er ieuenged vedd. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn dra ieuanc, a dywedir iddo deimlo argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl y pryd hwnw. Dechreuodd bregethu yn 1834, y flwyddyn y bu farw y Parch. John Roberts, Llangwm, a chwe' blynedd cyn rhanu y sir yn ddau