Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gyfarfod Misol, ac efe eto ond 19eg oed. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1849. Bu yn bregethwr poblogaidd am 53 mlynedd. Y tebyg ydyw nad oedd yr un dyn mwy cyhoeddus nag ef yn yr oll o Sir Feirionydd am yr holl amser yna, ac nid oedd nemawr neb yn fwy adnabyddus trwy Ogledd a Deheudir Cymru.

Un adeg ar ei oes, bu ganddo ofalon bydol lawer. Cadwai siop yn Mhenmachno, triniai fferm fawr, sef y Bennar, a llanwai hefyd y swydd o steward coed, ac yr oedd y byd yn dyfod gydag ef fel lli yr afon. Eto meddienid ef yn llwyr gan ysbryd pregethu yn nghanol ei drafferthion; pregethwr ydoedd yn y siop, yn y fferm, ac yn y coed. Ond credai bob amser fod gwaith gweinidog yr efengyl yn rhy bwysig iddo i ymrwystro gyda mân orchwylion a negeseuau y bywyd hwn. Felly, er fod ganddo deulu lliosog i ymddibynu arno, yn 1861, rhoddodd yr oll o'i gysylltiadau bydol i fyny er mwyn yr efengyl yn unig, a symudodd i Gorwen, i gymeryd gofal yr achos yno. Ni edifarhaodd am hyn, ac ni edrychodd o'i ol o gwbl, eithr teimlai fel aderyn wedi ei ollwng i ehedeg yn yr awyr, yn berffaith yn ei elfen wrth wasanaethu crefydd a dim ond hyny. Yn 1864, symudodd drachefn o Gorwen, gan ymsefydlu yn Abermaw, a dyma yr adeg y mae yn dyfod gyntaf i gysylltiad uniongyrchol â Chyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Yn Nghyfarfod Misol Aberllefeni, Gorphenaf y flwyddyn hono, y darllenwyd llythyr cyflwyniad iddo o'r rhan Ddwyreiniol i'r rhan Orllewinol o'r sir, yr hwn sydd fel y canlyn':—

"Llandrillo, Mehefin 1864,

"Anwyl Frodyr,

Yr ydym yn ystyried mai peth rheolaidd, er nad mor angenrheidiol, ydyw rhoddi llythyr o gyflwyniad i'r brawd anwyl, y Parch. David Davies, ar ei ymadawiad â ni fel Cyf-