Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfod Misol, a'i ymsefydliad yn eich plith chwi. Y mae colli Mr. Davies yn golled y teimlir yn ddwys o'i herwydd genym ni fel Cyfarfod Misol, ac yn arbenig gan yr eglwysi yr oedd ef yn dwyn cysylltiad mwy neillduol â hwy. Nid oes genym ond ymdawelu, a goddef y brofedigaeth, gan geisio credu ei fod dan arweiniad oddiuchod yn y symudiad, a gweddio am ei gysur ef a'i deulu yn eu trigfa newydd, a'i lwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd yn eich plith.

Yr eiddoch dros y Cyfarfod Misol,

John Williams, Ysgrifenydd."

O hyny allan, llafuriodd Mr. Davies yn benaf, yn y rhan Orllewinol o'r sir. Bu yn weinidog rheolaidd yr eglwys yn Abermaw hyd 1874, pryd y rhoddodd ei le i fyny, oherwydd llesgedd a deimlai mewn canlyniad i ddamwain a gyfarfyddodd pan ar daith i bregethu yn Lleyn. Er iddo ymneillduo o fod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r eglwys, ni pheidiodd a gweithio gyda gwaith yr Arglwydd, ac nis gallai beidio, oblegid fod gweithio yn reddf gynhenid yn ei natur. Gwnaeth a allai i gynorthwyo y Parch. R. H. Morgan, M.A., ei olynydd fel gweinidog yr eglwys. Teimlai fwy o ryddid bellach i wasanaethu y Cyfarfod Misol a'r eglwysi yn gyffredinol o fewn y cylch, a bu ei wasanaeth o fawr werth yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Parhaodd i breswylio yn Abermaw hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth, pryd y symudodd y drydedd waith i Benrhyndeudraeth. Cymerodd ei symudiad yma le, yn fwyaf neillduol, oherwydd cyfleusdra i fyw, gan ei fod ar y pryd yn newid ei breswylfod yn Abermaw. Ymddangosai yn ystod y tair wythnos hyn yn llawn o sel ac awyddfryd i weithio gyda phob rhan o deyrnas y Cyfryngwr. Ymaflodd ar unwaith ymhob gwaith, fel dyn ieuanc yn hoewder ei nerth, ac fel pe buasai am ail ddechreu ei oes drosodd drachefn. Yr oedd yn ei gynefin iechyd, ac ar y