Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/332

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd Mercher y bu farw ymddangosai yn fwy siriol a chryf nag arfer. Gwasanaethai yn y prydnhawn mewn angladd, ac ar ol hyny aeth ef a Mrs. Davies i dŷ cymydog i dê. Wrth ddychwelyd adref cymerwyd ef yn glaf, a chydag anhawsder y cyrhaeddodd i'w dŷ ei hun. Ymhen tua thri chwarter awr wedi cyraedd adref, ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes. Parodd yr amgylchiad deimlad dwys trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Teimlid fod ei symudiad, o ran sydynrwydd, yn debyg i symudiad Enoc neu Elias. Yn nghanol bywyd, a hoewder, a nerth yr oedd ei gyfeillion wedi ei weled bob amser hyd y diwedd, ac felly y cawsant yr olwg olaf arno. Tarawodd ei symudiad bawb gyda'r fath syndod, fel mai peth anhawdd oedd credu na chaent weled ei wyneb ef mwy, a mawr fu y chwithdod am dano o'r dydd hwnw hyd yn awr.

Cyrhaeddodd Mr. Davies sefyllfa uchel ymhlith y Methodistiaid fel gweinidog poblogaidd a chymeradwy. Dechreuodd ei weinidogaeth pan oedd goruchwyliaeth y teithio mewn bri, a gellir, gyda phriodoldeb, edrych arno fel dolen gydiol rhwng yr oes aeth heibio o bregethwyr â'r oes bresenol. Yr oedd ei weinidogaeth ar y cychwyn cyntaf yn wresog a thanbaid, ac ar brydiau byddai yn nerthol iawn. Meddai lais peraidd a soniarus, a dawn mor ddihysbydd a'r môr, a gwroldeb i sefyll i fyny yn gryf dros yr hyn a gredai oedd iawn. Derbyniodd yn dra helaeth o ysbryd y Diwygiad 1859-60. Bu yn foddion y pryd hwnw i droi llawer i gyfiawnder. Cofir yn hir am aml un o'i bregethau miniog ac argyhoeddiadol. Yr oedd ei ddawn yn gymwys iawn i'r pulpud; medrai ef gyraedd sylw a dirnadaeth lliaws y bobl gyffredin yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Parhaodd ar hyd ei oes yn un o wyr cyhoeddus mwyaf ymarferol a defnyddiol a feddai Cymru.

Heblaw bod yn bregethwr effeithiol, perthynai iddo lawer o ragoriaethau mewn cylchoedd eraill, yn arbenig yn y cyfarfodydd eglwysig. Mynych y cynhyrchai fywyd a gwres yn