Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghyfarfodydd yr eglwys, megis ar darawiad. Yr oedd gwresogrwydd ei natur ef ei hun, ei ddawn parod, a'i hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, yn ei wneuthur yn nodedig o gymwys i arwain yn nghynulliadau y saint. Byddai, mae'n wir, ar adegau yn cael ei gario yn rhy bell gan ei deimladau. Y rhai a'i hadwaenent oreu hefyd a wyddent y byddai yn rhy barod i newid ei gynlluniau, ac na byddai bob amser yn ddoeth. Ond hysbys ydyw, pan y gwnai gamgymeriadau mewn byrbwylldra, y byddai yn edifarhau, a chan gynted ag y gallai yn dychwelyd yn ol i'r ffordd iawn. Er hyn i gyd, gŵr ymroddedig iawn ydoedd gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, a'i gyrhaeddiadau a'i amlygrwydd ymhell ar y blaen ymhlith ei gydoeswyr. Cerddodd ymlaen trwy ei fywyd gyda holl symudiadau y Cyfundeb. Byddai yn wastad yn cynllunio gyda rhywbeth neu gilydd, eto mewn taro ar ben yr hoel, a sicrhau yr hoelion y byddai yn fwyaf llwyddianus. Yr oedd yn un o feistriaid y gynulleidfa. Safai yn y ffrynt yn ei oes o ran sel a gwresogrwydd a difrifwch gyda gwaith y weinidogaeth, ac yr oedd yn un o'r gwylwyr mwyaf effro ar furiau Seion. Cymerodd ei farwolaeth le ar y 9fed dydd o Chwefror, 1887, pan ydoedd yn 72 oed.

DYFFRYN.

"Ychydig o leoedd yn Sir Feirionydd sydd yn fwy blodeuog o ran yr achos crefyddol, gyda'r Methodistiaid, na'r ardal hon." Fel yna yr ysgrifenwyd am yr ardal yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y sylw yn wir y pryd hwnw, faint bynag o wir all fod ynddo yn awr, a gellir nodi dwy ffaith i brofi gwirionedd y sylw, Yr oedd o'r dechreu cyntaf drefn dda wedi ei chadw ar holl amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn, ac heblaw hyny, bu yma gewri o weinidogion a blaenoriaid yn golofnau o dan yr achos yn yr amser aeth heibio. Hysbys ydyw mai gwlad agored ydyw yr ardal hon, yn gorwedd ar lan y môr, oddeutu