Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

haner y ffordd rhwng Abermaw a Harlech, a'i thai a'i thrigolion yn wasgaredig. Nid yw ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn gyffelyb i leoedd eraill, felly y mae ganddi yr anfantais hono, o leiaf, i gadw ar y blaen ymhlith eglwysi y sir. Pa fodd bynag, i Fethodistiaid lliosog Sir Feirionydd fe bery crefyddwyr y Dyffryn yn hir yn "garedigion oblegid y tadau," ac erys y lle byth yn gysegredig yn eu teimlad, oblegid yma y mae Machpelah, lle yr huna amryw o enwogion a fu gynt yn arweinwyr crefydd yn y wlad. Ceir cryn lawer o hanes dyddorol am ddechreuad yr achos yn y Dyffryn yn Methodistiaeth Cymru, ac y mae hyny i'w briodoli yn benaf i'r ffaith fod y Parch. Richard Humphreys yn fyw pan oedd y gwaith hwnw yn cael ei barotoi i'r wasg, a dywed yr awdwr mai i'r gŵr parchedig o'r Faeldref yr oedd yn ddyledus am yr hanes. Nis gallwn wneuthur yn well, yn gyntaf oll, na rhoddi y dyfyniad canlynol yn llawn,—

"Dechreuad achos y Methodistiaid yn y Dyffryn oedd yn debyg i hyn. Yr oedd brawd a dwy chwaer, mab a merched i wr o'r enw Richard Humphrey, yn arfer myned i wrando pregethu i Ben-yr-allt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno. Fe fyddai ambell odfa, y pryd hwn, yn cael ei chynal yn y Dyffryn, yr hwn sydd tua phum milldir o Harlech ;-cedwid yr odfeuon allan yn yr awyr agored. Ymddengys mai nid yn yr un fan y cedwid yr odfeuon hyn, ond weithiau yma ac weithiau acw. Mae son, pa fodd bynag, am un yn cael ei chynal mewn lle a elwir Clwt-y-gamfa-wen; gwnaed yr odfa hon yn fwy hynod, oherwydd yr aflonyddu a fu arni.

"Yr oedd yn Nghors-y-gedol, ar y pryd, wr o'r enw Griffith Garnetts, math o ymddihynydd ar y teulu boneddig. Hwn, ynghyd ag un o'r dynion a berthynai i'r helwriaeth, a ddaeth