Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/335

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y gynulleidfa. Nid oedd y teulu Vaughan yn gwneyd dim sylw personol ac uniongyrchol o ysgogiadau y Methodistiaid; ond yr oedd y Garnetts hwn, naill ai wedi cael ei yru yn ddirgel ganddynt, neu ynte, yr hyn hefyd sydd yn fwyaf tebygol, yr oedd o hono ei hun yn prysuro i gyflawni y gorchwyl, a dybid ganddo yn gymeradwy ganddynt, a thrwy hyny enill mwy o'u ffafr. Y gwr ag oedd yn awr yn pregethu oedd William Evans, o'r Fedw-arian. I aflonyddu ar yr odfa, ac i ddyrysu y pregethwr, gorchmynai Garnetts i'r dyn oedd gydag ef chwythu y corn hela ei oreu, fel na chlywid llais y pregethwr. Chwyth yn ei glust o, Sionyn,—Chwyth yn nghlust y dyn â'r llyfr.' Felly y gwnaeth Sionyn, a hyny mor effeithiol, nes y bu raid i'r pregethwr dewi; y bobl hefyd a ymwasgarasant o'r lle, ond ymgynullasant eilwaith ar lan y môr, lle y tybient y gallent honi hawl i sefyll yn ddiwarafun; a lle y cawsant lonyddwch i wrando heb ychwaneg o ymyriad.

"Byddai R. Jones, Rhoslan, yn arfer dyfod y pryd hwn i bregethu i'r Dyffryn. Gwrandewid arno ef yn well nag ar nemawr neb a ddeuai; yn benaf am fod ei ddull o bregethu yn fwy tawel a digyffro, agwedd dra gwahanol i ddull y rhan fwyaf o bregethwyr y dyddiau hyny. Yr oedd hefyd yn arfer dyfod i'r ardal weithiau, i dori llythyrenau ar gerig beddau. Galwyd arno i wneyd hyn, amryw weithiau, i deulu Cors-y-gedol. Unwaith, pan yn llythyrenu yn y modd hwn, ar gareg fedd yn mynwent Llanaber, daeth Garnetts ato, i ddweyd fod yn ddrwg ganddo aflonyddu dim arno ef fel pregethwr, ac yntau yn arfer gweithio i Mr. Fychan, Cors-y-gedol; ond dywedai wrtho, yr un amser, y gwnai ef eto yr un peth, os anturiai Robert Jones bregethu yn y gymydogaeth hono. Ar hyn, ebe Robert Jones, A welwch chwi y bedd yna, Mr. Garnetts? fe fydd pregethu yn y Dyffryn pan fyddwch chwi yn gorwedd mewn lle fel hwnyna."

"Yr oedd y bedd y cyfeiriai Robert Jones ato yn agored ar