Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pryd, ac yntau yn ddyn yn ei gyflawn nerth. Tybiodd Garnetts ei fod ar fedr ymaflyd ynddo a'i roi yn y bedd y pryd hwnw,—dychrynodd drwy ei galon, a chan y dychryn, neu gan rywbeth o'r fath, fe'i hataliwyd rhag aflonyddu yr odfaon o hyny allan.

"Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1780. Yn y flwyddyn hono, cymerodd Griffith Richard, sef mab Richard Humphrey, rwym-weithred (lease), ar ddarn o dir gan dad Dafydd Ionawr;[1] adeiladodd dŷ arno, ac i'r tŷ hwn y derbyniodd bregethu, fel na feiddiodd neb, o hyny allan, aflonyddu arnynt mwy. Yn lled fuan ar ol hyn, fe ddechreuwyd cyfarfod eglwysig mewn ystafell fechan yn y tŷ. Y mae un a ymunodd â'r eglwys fechan hon yn y flwyddyn 1785, yn awr yn fyw. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 15. Yn fuan ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan gan Griffith Richard, yn benaf os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun. Bellach yr oedd pregethu amlach a mwy cyson yn y lle; yr oedd rhagfarn y bobl yn lleihau, a gradd o effaith y pregethau yn aros ar feddyliau amryw. Tua'r cyfnod hwn, ymwelodd yr Arglwydd a'r ardal â diwygiad nerthol, nes yr aeth y capel bychan yn llawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr ag oeddynt bellach yn heidio i'r odfaon; a chwanegwyd amryw at rifedi yr eglwys.

"Y pryd hwn, yr oedd gwr o'r enw Mr. Llwyd yn gurad yn eglwysi Llanenddwyn a Llanddwywe (dau blwyf yn y fro), yr hwn oedd o leiaf yn deall yr efengyl, ac yn ei phregethu yn oleu a nerthol. Nid ydym mor sicr pa faint o ddylanwad yr efengyl a brofid gan ei galon ef ei hun. Bu farw yn Sir Aberteifi, a hyny, meddir, dan yr enw o fod yn gybydd truenus. Yr oedd ei weinidogaeth, pa fodd bynag, yn effeithiol iawn; ymgynullai canoedd i wrando arno, a mynych y byddai y llanau yn adsain gan lais gorfoledd a chân. Ond ni oddefid

  1. Tad y bardd a elwid Dafydd Ionawr.