Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/337

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r llanau gael eu halogi (1) yn y modd yma yn hir. Gosododd teulu Cors-y-gedol eu hwynebau yn erbyn Mr. Llwyd, a bu raid i'r Wardeiniaid un Sabbath gyhoeddi yn yr eglwys, mewn ffordd o rybudd i'r gynulleidfa, y byddai raid i bawb aros yn ei blwyf ei hun, a pheidio a heidio yno yn lluoedd, gan eu bod yn difetha yr eglwys. Ond ni chafodd y cyhoeddiad hwn fawr o effaith ar y bobl.

"Yr oedd y curad yn pregethu heb lyfr, yr hyn oedd yn beth newydd iawn yn y llanau y pryd hwnw. 'Yr oedd y rector ei hun,' medd fy hysbysydd,[1] yn offeiriad o'r hen ffasiwn, yn caru byw yn llonydd a diofal, yn darllen y bregeth fel y gwasanaeth; ac y mae yn ddigon tebyg, heb nemawr o law ganddo yn nghyfansoddiad y naill mwy na'r llall. Anfonodd un o'r wardeiniaid unwaith at y rector ar ol darllen y llithoedd, i ddywedyd ei fod yn disgwyl cael pregeth yn y gosber. Yntau a anfonodd yn ol i ddywedyd fod hyny yn anmhosibl, am na ddygasai bregeth gydag ef. Ond ni fynai y warden ei droi heibio, a dywedai fod yn rhaid iddo gael un. Felly, fe drodd y person at y curad gan ddywedyd, 'Tyr'd ti, Llwyd—tyr'd ti, Llwyd, y mae pregeth gen'ti pan mynir, ac felly bu raid i Llwyd bregethu.

"Yr oedd pregethau y curad mor anghymeradwy gan deulu Cors-y-gadol, fel y penderfynasant fynu ei droi ef ymaith. Galwyd Vestry fawr o'r plwyfolion i'r diben hwnw, a gosodwyd yr achos i lawr o'n blaen, heb ameu yn ddiau, nad oedd dylanwad y teulu bonheddig yn ddigon i droi y glorian. Anturiodd un gŵr, pa fodd bynag, o'r enw Harri Roberts, Uwchlaw-y-coed, i ofyn, 'Pa ddrwg y mae Mr. Llwyd wedi ei wneyd?—am ba beth yr ydym yn ei droi ef i ffordd?' Atebodd un o'i wrthwynebwyr, Y mae ê yn curo clustog y pulpud, ac yn ei difetha hi a'r pulpud hefyd.'

  1. Y Parch. Richard Humphreys.