Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/338

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel,' ebai Harri Roberts, 'mi dalaf fi am glustog newydd yn ei lle, pan dderfydd hi.' Ond ni wnai hyny mo'r tro, er fod y gŵr a addawodd wneuthur y glustog yn dda, yn ŵr cyfrifol a pharchus yn yr ardal;—i ffordd yr oedd yn rhaid i'r curad fyned. A myned ymaith a wnaeth; ac ar ei ymadawiad ef, ymadawodd yr holl rai hyny yn y gynulleidfa ag oedd a dim difrifol ar eu meddyliau, ac ymunasant â'r Methodistiaid: ac yn eu mysg yr oedd Harri Roberts, yr hwn, gyda'i frawd Richard Roberts, a Griffith Richard, a adeiladodd y capel, a gŵr arall o'r enw Sion Evan, oedd yn cyfansoddi y dosbarth cyntaf o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr eglwys yn y Dyffryn." —Methodistiaeth Cymru I., 533-535.

Y mae llawer o ddelw yr Hybarch Richard Humphreys ar y pethau a adroddir uchod. Yr oedd ganddo ef fantais nodedig i adrodd yr hanes, gan ei fod yn frodor o'r ardal, ac yn dal perthynas agos â'r rhai a gychwynasant yr achos. Crybwyllir am ddau amgylchiad arall, yn ychwanegol at yr hyn a adroddir uchod, mewn cysylltiad â'r rhai y ceir enw Sidney Dafydd, gŵr a fu wedi hyny yn grefyddwr disglaer yn Abermaw, am yr hwn y coffheir ynglyn â'r eglwys yno. Daeth William Evans, or Fedw-arian, i'r Dyffryn i bregethu, ac ar y traeth yr oedd yr odfa i gymeryd lle. Ymgasglodd haid o lanciau y gymydogaeth ynghyd, gan lwyr fwriadu atlonyddu yr addoliad, a baeddu y pregethwr. Dygent gyda hwy gerig a phethau eraill i'w lluchio ato. Ymhlith y bechgyn gwylltion, ac yn flaenaf o honynt, yr oedd Sidney Dafydd. Ond pan y daeth ef i swn y canu, meddianwyd ef gan ddychryn, a gollyngodd y cerig a ddygasai gydag ef i'r llawr. Ei gyfeillion hefyd, pan welsant hyn, a lwfrhasant, ac ni bu ynddynt galon i aflonyddu ar y cyfarfod.

Y tro arall oedd pan y cedwid noswaith lawen yn Llanenddwyn, ac y digwyddai fod pregeth yr un noswaith yn nhŷ