Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Griffith Richard. Yr oedd nifer o wŷr ieuainc wedi ymgasglu ynghyd i fyned i'r noswaith lawen, ond ofnent y byddai ambell un wedi myned i'r odfa yn lle dod gyda hwy. "Am hyny penderfynwyd ganddynt i Sidney Dafydd alw heibio'r odfa i edrych a oedd neb o'u cymdeithion yno. Pan ddaeth y genad at ddrws y tŷ, yr oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn, sef Ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched' (Deut. xxix. 19). Glynodd y geiriau fel saeth yn ei galon;—hoeliodd ef wrth y fan, fel na allai fyned i ffordd at ei gyfeillion. Arhosodd i wrando yr holl bregeth, a chafodd ei hun yn y diwedd yn nghanol y tŷ, wedi ei lwyr orchfygu, ac wedi bod yn gwaeddi allan am ei fywyd, fel un a welsai ei ddirfawr berygl."

Rhoddwyd yr hanes canlynol gan Mr. Robert Evans, Trefriw, tad y Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd). Yr oedd y gŵr hwn yn enedigol o'r parth hwn o Orllewin Meirionydd, ac yn y sir hon yr ymunodd â chrefydd; bu yn byw am beth amser yn Mhwllheli, ond treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i oes yn Nhrefriw. Meddai graffder neillduol, côf rhagorol, ac ymddifyrai mewn adrodd helyntion boreuol y Cyfundeb. Yn ei hen ddyddiau ysgrifenodd grynhodeb o'r digwyddiadau a gymerasant le yn yr ardaloedd hyn yn nhymor ei ieuenctid. Ond gan na chyraeddasant y Parch. John Hughes yn ddigon prydlon i'w rhoddi gyda hanes Sir Feirionydd, y maent wedi eu cyfleu ar ol hanes Trefriw, yn y drydedd gyfrol o Fethodistiaeth Cymru. Mae yr hanes, fel y gwelir, wedi ei ysgrifenu gan un oedd yn llygad-dyst o'r holl amgylchiadau, ac y mae yn taflu goleuni, nid yn unig ar ddechreuad yr achos yn y Dyffryn, ond hefyd ar sefyllfa yr ardaloedd cylchynol, fel mai prin y byddai yr hanes yn y gyfrol hon yn gyflawn heb roddi y dyfyniad yn ei gyfanrwydd.