Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/340

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae y ffeithiau yn cytuno ymhob peth o bwys â'r crynhodeb a roddwyd gan y Parch. Richard Humphreys,—

"Megis y crybwyllwyd eisoes, yr oedd pregethu yn Harlech ac Abermaw rai blynyddau cyn bod dim yn y Dyffryn. Y bregeth gyntaf, hyd y gallai Robert Evans wybod, a fu yn y Dyffryn, a draddodwyd gan Robert Jones, Rhoslan, ar y Morfa, dan Llanddwywe. Yr oedd yno dwmpath yn nghanol y gwastad, i ben yr hwn yr esgynai y pregethwr, ac oddiar y topyn gwyrddlas hwn efe a lefarodd yn hynod o ddifrifol ac effeithiol oddiar Gen. xix. 17, 'Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd;' a pheth teilwng i'w grybwyll ydyw na ddangoswyd y duedd leiaf i erlid, er mai dyma yr odfa gyntaf erioed a fu gan Ymneillduwyr o un enwad. Yr oedd Griffith Jones, Ynys-y-pandy, yn dechreu yr odfa o flaen Robert Jones. Ymhen enyd o amser ar ol hyn, daeth Thomas Evans, Waunfawr, i'r ardal; a'r lle y sefydlwyd arno iddo ef bregethu, oedd wrth y gareg filldir, yn y Coedcoch, lle y mae capel y Dyffryn yn sefyll yn awr. Pan glybu Rowland Williams, goruchwyliwr Cors-y-gedol, efe a ddaeth yno ar fedr lluddias Thomas Evans i bregethu; ac yr oedd yn y lle cyn i Thomas Evans gyrhaeddyd yno, ac yn ei ddisgwyl yn awyddus. Pan ganfu ef yn dyfod, efe a dorodd drwy y dorf i'w gyfarfod, a gofynodd iddo yn awdurdodol a llym, Pa beth ydyw eich gwaith yn heleyd ar draws y wlad, i ddyfod yma i beri cynwrf? Yr ydych chwi yn gwneyd llawer o ddrwg drwy beri anghydfod ac amrafaelion mewn teuluoedd; y wraig, feallai, yn myn'd ar eich ol, a'r gŵr yn sefyll yn erbyn.'

"I hyn yr atebodd Thomas Evans yn barchus ac arafaidd, 'Oni ddarllenasoch chwi yn y Beibl, Syr, i'n Hiachawdwr ei hun ragddywedyd mai felly y byddai gyda'i ddilynwyr ef? gan adrodd y geiriau yn Luc xii. 51-53; sef, 'Ydych chwi