Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/342

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ef yn adeiladu, a buont yn bygwth y gwnaent ei chwalu. Bu teulu Griffith Richard, gan hyny, yn gwylio llawer noswaith, rhag y rhoisent eu bygythiad mewn grym. Ond fe lwyddodd y gŵr i gael ei amcan i ben, er yr holl wrthwynebiad. Yr Arglwydd hefyd a'i cofiodd yntau, trwy goroni ei lafur â llwyddiant. Yr oedd Robert Evans, y pryd hyn, wedi ymadael â'r Dyffryn, ac yn aros yn y Penrhyndeudraeth. 'Mae yn gofus iawn genyf,' meddai, 'pan adeiladwyd y tŷ, cyn cael gwydr ar y ffenestri, na'i orphen, iddynt gael cyhoeddiad Robert Jones, Rhoslan, i ddyfod yno i bregethu y Sabbath, ddau o'r gloch; ac er fod ysbaid 58 mlynedd[1] er pan ddigwyddodd hyny, y mae mor gôf genyf a doe yr amgylchiadau rhyfedd a gymerasant le yn gysylltiedig â'r tro hwnw. Y nos Wener a'r dydd Sadwrn o flaen hyny, hi dorodd yn wlaw rhyfeddol. Yr oedd Robert Jones, ddydd Sadwrn, am ddau o'r gloch, yn pregethu yn Hendre-howel, lle yn agos i Dremadog, a'r nos yr oedd i fod yn y Penrhyn; ond yr oedd y traeth wedi llifo i'r fath raddau fel nad oedd obaith myned trwyddo. Gadawsai Robert Jones ei geffyl yn Hendre-howel, a daeth i lawr at y traeth ar ei draed; a phan y daeth i'r golwg, fe ganfyddai un yn parotoi ewch bychan ar fede croesi y Traeth mawr, i fyned i ddiogelu ewch arall oedd ganddo yn y Traeth bach,[2] rhag cael ei niweidio neu ei golli trwy y llifogydd. Hwn a gymerodd Robert Jones gydag ef, ac felly cafodd groesi yn brydlon a dirwystr.

  1. Ysgrifena R. Evans hyn, fel y tybir, yn y flwyddyn 1838, oblegid ymhen un mlynedd ar ddeg wedi hyny y bu farw. Felly cymerodd y digwyddiad a grybwyllir le yn y flwyddyn 1780.
  2. Mae y Penrhyndeudraeth, fel yr arwydda ei enw, yn ymestyn tua'r mor, rhwng y ddau draeth y Traeth mawr sydd nesaf i Dremadog, a'r Traeth bach yn ochr Sir Feirionydd. [Rhaid cofio hefyd fod hyn wedi digwydd lawer o flynyddoedd cyn gwneuthur y Cob rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.]