Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oedd cydweithrediad nodedig yn yr amgylchiad uchod, rhwng ymroddiad penderfynol y pregethwr ac arolygiaeth rhagluniaeth. Hawdd a fuasai i'r pregethwr ymesgusodi, ac edrychasid ar ei esgusawd yn un perffaith resymol o dan yr amgylchiadau; eto nid esgus i beidio oedd arno eisiau, ond rhwydd-deb i gyflawni ei addewid; a chan mai ar neges ei Dduw yr oedd, disgwyliai wrtho am ddrws agored. Gellir canfod pa fodd y mae y fath gyd-darawiad yn bod rhwng penderfyniad y pregethwr a darpariaeth rhagluniaeth, gan mai o'r un ffynon y codent. Ysbryd a rhagluniaeth yr un Duw oedd yma yn gweithio, a rhesymol ydyw disgwyl cyd-gordiad rhyngddynt.

"Cyrhaeddodd Robert Jones y Penrhyn heb ei ddisgwyl, oherwydd gorlifiant y Traeth. Tranoeth, sef y Sabbath, yr oedd ei gyhoeddiad i fod yn Harlech am naw o'r gloch; ond yr oedd y fath lif yn y Traeth bach, drachefn, fel yr oedd yn annichonadwy i neb fyned trwyddo heb gwch; a chwch nid oedd gan neb o'i amgylch; am hyny bwriadwyd iddo bregethu yn y Penrhyn. Ond cyn rhoddi i fyny yn llwyr, aeth Robert Jones, a rhai cyfeillion gydag ef, ac yn eu mysg yr oedd Robert Evans, i olwg y traeth, i edrych a geid unrhyw gyfleusdra i fyned trosodd. Ar eu gwaith yn dynesu at y lan, hwy a welsent gwch yn dyfod oddiwrth Tŷ-gwyn-y-gamlas, i fyny rhyngddo â'r lan arall. Aethant oll i'w gyfarfod, ac erbyn edrych, ewch ydoedd yn perthyn i long o Bwllheli, oedd wrth angor gerllaw y Tŷ-gwyn. Yr oedd myglus (tobacco) un o'r dwylaw ar y llong wedi darfod, a chyrchai tua'r Penrhyn er mwyn gwneyd y diffyg i fyny. Ar ddeisyfiad y brodyr, efe a gludodd yr holl fintai drosodd, a chafodd fodd trwy y wobr a roddwyd iddo i gael mwy o dobacco nag a ddisgwyliasai. "Gwnaethant bob brys bellach i gyraedd Harlech erbyn yr amser crybwylledig, sef naw o'r gloch; ond erbyn cyraedd yno, deallasant mai yn Mhen'rallt yr oedd yr odfa i fod, yn lle yn