Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/344

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Harlech. Erbyn hyn, yr oedd wedi myned ymhell ar y diwrnod, a'r bobl a ddaethant ynghyd i Ben'rallt wedi blino yn aros, ac wedi ymwasgaru; rhai wedi myned tua'u cartrefi, ac eraill tuag eglwys y plwyf. Ond wedi eu myned at yr eglwys, digwyddodd fod yr offeiriad yn glaf, ac nad oedd dim gwasanaeth y Sabbath hwnw. Yr oedd Robert Jones a'i gymdeithion erbyn hyn yn neshau at Ben'rallt, ac yn ngolwg yr eglwys; a phan y gwelodd y bobl hwy, daethant yn lluoedd i'w dilyn a llanwyd tŷ Pen'rallt o ben bwy gilydd. Wedi darfod yr odfa yma, yr oedd yn rhy hwyr teithio i'r Dyffryn erbyn dau o'r gloch. Gan mai yr un offeiriad oedd yn darllen yn Llanbedr ac yn Llanfair, yr oedd y rhai a ddaethant at yr eglwys i ddisgwyl gwasanaeth yno wedi cael eu siomi fel y cawsai eu cymydogion yn y plwyf arall. Wrth i'r pregethwr a'i gwmni fyned trwodd, y plwyfolion hyn a'u dilynasant yn finteioedd i'r Dyffryn; a llanwyd tŷ newydd Griffith Richard y waith gyntaf erioed y defnyddiwyd ef i'r perwyl.

"Pan welodd amaethwr cyfrifol o'r plwyf y bobl yn gadael yr eglwys yn Llanfair ac yn myned i Ben'rallt, a'r lleill yn gadael eglwys Llanbedr i fyned i'r Dyffryn, efe a gymerodd ei geffyl ac a aeth nerth y carnau i Lanaber, i geisio y person, Mr. Parry, yr hwn oedd beriglor y ddau blwyf. Fel yr oedd mintai Robert Jones yn dychwelyd o'r Dyffryn, wedi darfod yr odfa, dyma y ddau, sef y person a'r ffermwr, yn dynesu atynt ac yn gyru yn erwin; a'r blaenaf yn gofyn yn gyffrous iawn i'w blwyfolion wrth yru heibio iddynt, A ydych chwi wedi myn'd i ddilyn y ffydd hon?' Un o'r plwyfolion a'i hatebai, 'Y mae yn ddigon rhaid i ni fyned i ddilyn rhyw ffydd; nid oedd acw ffydd yn y byd heddyw.'

"Pan oedd y brodyr crefyddol yn dychwelyd adref ar y Sarn hir tua machludiad haul, yr oedd cloch Llanbedr a Llanwnog yn canu. Yr oedd yr offeiriad yn ei waeledd wedi codi