Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/345

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan, fel y byddai i'r person gadw gosper yn un, a'r offeiriad yn y llall; er na fyddai gosper byth yn yr un o'r ddwy amseroedd eraill. Yr oedd Robert Jones yn dweyd ar ol hyn, ei fod yn meddwl yn sicr fod gan yr Arglwydd waith i'w wneyd yn y Dyffryn, ac na welodd ef dro hynotach un amser. Troes yr holl amgylchiadau i gydweithio fel ag i arwain y bobl i swn efengyl. Y ddau gwch i groesi y traethydd-dyfodiad diweddar y pregethwr yn cyraedd Pen'rallt—afiechyd yr offeiriad, a'r cwbl yn cyd-dueddu i'r un amcan."-Methodistiaeth Cymru, III. 196-199.

Y mae digon o sicrwydd i eglwys gael ei ffurfio yn y Dyffryn ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol 1780, ac yn nhŷ Griffith. Richard y dechreuwyd cynal cyfarfodydd eglwysig. Nifer y crefyddwyr ar y pryd oedd pymtheg. Yr oedd rhai o'r aelodau cyntaf o sefyllfa dda yn y byd, ac yn ddiameu yn meddu mesur o ddylanwad yn yr ardal. Ceid yma hefyd, megis y crybwyllwyd eisoes, drefn dda ar yr achos o'r dechreuad. Mor foreu a'r flwyddyn 1787, ceir enwau yr holl aelodau yn ysgrifenedig mewn llyfr perthynol i'r eglwys. Eu nifer y flwyddyn. hon oedd saith ar hugain. Wele eu henwau fel y maent i lawr yn y llyfr-Griffith Richard, Caty Griffith, Owen Morgan, Jane Richards, Richard Roberts, Margaret Ellis, Anna Griffith, Richard Roberts, Richard Davies, Lowri Pugh, Griffith Griffiths, Jane Evan, William Jones, Thomas Roberts, Robert Richard, Evan Williams, Henry Roberts, Jane Roberts, Jane Roberts, Pentra; Jane Jones, Ellin Griffith, Frances Poole, Betty Richards, Lowri Evan, Catherine Williams, Margaret Price, Ellin Harry. Yn y rhestr hon, gwelir fod y meibion yn yr eglwys yn lliosog mewn cymhariaeth i'r hyn a geid yn eglwysi y sir yn y cyfnod hwn, eto, hyd yn nod yma, mae nifer y gwragedd oeddynt wedi ymrestru yn ganlynwyr yr Iesu yn lliosocach na'r meibion. Yr oedd eu casgliad at y weinidogaeth yn dyfod tuag wyth swllt y mis. Yn y flwyddyn 1800