Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/346

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ceir rhif yr aelodau yn y llyfr yn 80. Dengys hyn fod yr eglwys hon y tymor hwn y liosocaf yn Ngorllewin Meirionydd. Y mae yn deilwng o sylw fod cofrestr aelodau yr eglwys wedi ei chadw yn bellach yn ol, o leiaf o ugain mlynedd, na dim y daethpwyd o hyd iddo yn yr un ardal arall. Ac mae y gofrestr wedi ei chadw yn ddifwlch o hyny hyd yn awr. Ymhen llawer o amser ar ol dechreu cadw y cyfrifon cyntaf hyn, cymerodd rhywun y dyddordeb i ail rwymo yr hen lyfr mewn rhwymiad lledr cryf a chadarn, yr hyn a rydd gyfrif dros fod enwau ffyddloniaid yr eglwys hon wedi goroesi cynifer o flynyddoedd heb gael eu difwyno.

Gwnaethpwyd gwaith nid ychydig gan eglwys y Methodistiaid yn y Dyffryn o dro i dro, mewn adeiladu a harddu tŷ yr Arglwydd. Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn oedd yn gapel bychan, gan Griffith Richard, yn benaf, os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun.' Cymerodd hyn le, fel y gellir casglu oddiwrth y gwahanol ddigwyddiadau yn yr hanes, yn y flwyddyn 1790, ymhen rhyw saith neu wyth mlynedd wedi dechreu cynal cyfarfod eglwysig yn nhŷ yr un gŵr. I'r capel hwn, sef yr adeg y gwnaethpwyd ef yn dy y tro cyntaf, y gwnaeth Robert Jones, Rhoslan, yr ymdrech neillduol, y cyfeiriwyd ati yn barod, i ddyfod i bregethu am Sabbath o Sir Gaernarfon, tra yr oedd y gwaith o'i adeiladu ar y canol, sef 'cyn rhoi gwydr ar y ffenestri.' Yn fuan wedi hyn, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal a diwygiad nerthol, ac mewn canlyniad, daeth y gwrandawyr yn, llawer lliosocach, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1795, helaethwyd y capel dri chymaint ag oedd ar y dechreu; er hyny, mynych y byddai yn llawer rhy lawn i fod yn hapus ynddo,' Ymddengys i'r eglwys gymeryd rhan yn y gwaith o adeiladu y tro hwn, ond yr oll a wyddis am y draul ydyw ddarfod talu y swm o 43p. 15s. 6c. am weithio y capel. Y pryd hwn byddai y Sassiwn yn estyn cymorth i adeiladu