wyd ef drachefn yn 1870. Cynhelir yma Ysgol Sul y boreu, a phregeth ddau o'r gloch.
Yn 1816, ceir ymysg rhestr y Teithiau Sabbothol fod Bontddu, Abermaw, a'r Dyffryn yn un daith. Wedi hyny, bu y Dyffryn a'r Gwynfryn yn hir gyda'u gilydd. Ionawr 1854, penderfynwyd, trwy ganiatad y Cyfarfod Misol, i'r Dyffryn ac Ysgoldy Egryn fod yn daith, ac felly y maent hyd yn awr.
YR YSGOL SABBOTHOL.
Yn ol yr hysbysiadau a geir, oddeutu y flwyddyn 1797 y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yma gyntaf, sef ar lawr pridd yr hen Gapel Coch. Yr oedd trigolion yr ardal y pryd hwn yn ddwfn iawn mewn anwybodaeth o'r Ysgrythyrau; nid oedd nemawr drefn ychwaith ar yr ysgol yn ei dechreuad cyntaf. Yn fuan ar ol ei chychwyniad, cafodd yr ysgol fantais fawr trwy ddyfodiad Mr. Thomas Bywater i'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol. Bu ef o wasanaeth mawr i'r brodyr yma, megis y bu yn y Bermo, trwy eu cynorthwyo i drefnu yr ysgol yn ddosbarthiadau o feibion a merched, cymwys o ran cyfartaledd mewn oedran a chyrhaeddiadau. Bu un Mr. Davies, hefyd, hen athraw ysgol ddyddiol, wedi hyn yn help mawr yn yr ystyr yma. Teilynga y rhai canlynol i'w henwau gael eu trosglwyddo i'r oesoedd a ddel mewn cysylltiad a sefydliad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol yn yr ardal:— Sion Evan, Caetani; Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed; Robert Sion, Glanrhaiadr; Hugh Evan, Hendre-eirian; Robert Sion, y Felin; Evan Sion, Llwyngwian; Rhisiart Sion, y Ffeltiwr, &c., rhai nad oes betrusder i ddweyd ddarfod iddynt wasanaethu eu cenhedlaeth yn ol ewyllys Duw" cyn cael eu casglu at eu tadau." Bu yr Hybarch Richard Humphreys yn dysgu plant bach i sillebu geiriau unsill yn yr hen Gapel Coch; ac adroddir ambell chwedl ddigrifol am dano yn traethu