Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adnoddau ei feddwl cyfoethog, a'i arabedd yn yr ymarferiad hwn. Wedi symud i'r capel mawr, fel ei gelwid, yn 1820, ac am yr ugain mlynedd dilynol-tymor euraidd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru-dywed y bobl hynaf sydd yn awr yn fyw, fod gwedd flodeuog ac ardderchog ar y sefydliad yn y Dyffryn; y capel eang yn orlawn adeg yr ysgol bob amser; y dosbarthiadau yn drefnus, a phawb yn ufuddhau gyda phob parodrwydd i bob trefniadau a osodid ar yr athrawon a'r deiliaid. Bu Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed, a Sion Evan, Caetani, yn ddau gyd-arolygwr tra buont byw. Nid oedd son am newid arolygwyr yn eu hamser hwy, ac yn wir nid arolygwyr oeddynt, ond blaenoriaid yr ysgol, a'r rheol gyffredin fyddai, pan y cyfodai dadl ar unrhyw bwnc ag y methid ei benderfynu yn y dosbarth, galw un o'r ddau arolygwr i'r dosbarth i benderfynu y ddadl. O'r ysgol flodeuog hon y sefydlwyd cangen yn Hendre-cirian, yr hon a symudwyd i Ysgoldy Egryn. Bu cangen hefyd unwaith mewn tŷ wrth droed y Moelfra a elwid Bronyfoel. Bu cangen arall yn Nghoed Ystumgwern. Rhifa ysgol y Dyffryn yn bresenol (1889), gan gynwys y canghenau, 332.

Y COFNODYDD EGLWYSIG.

Llyfr ydyw hwn y dechreuwyd ei gadw Ionawr 1847, lle y ceir hanes yr holl aelodau, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, symudiadau, diarddeliadau, &c., enwau y rhai y buwyd yn ymddiddan â hwy; yr hyn fu dan sylw yn y cyfarfodydd eglwysig, darllen cyfrifon, pregethau y Sabbath, &c. Yr oedd y Parch. John Williams, Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, yı hwn a ymfudodd wedi hyny i'r America, yn byw yma dros ryw hyd y tymor hwn. Ei waith ef oedd darparu y llyfr hwn, ac yn ei lawysgrif ef y mae yr holl gofnodion sydd ynddo am ddwy neu dair blynedd. Wele rai engreifftiau o'i gynwys,—Rhag. 8, 1847, y son oedd fod teulu————wedi colli eu lle yn y ffair