Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/350

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fu yno; dangoswyd nad oedd y drwg cynddrwg a'r son oedd yn ei gylch." "Cynghorwyd pawb i ymgadw rhag yr ysfa bechadurus o frokio ar hyd glan y môr." "Rhag. 29, ymdriniwyd am bregethau y Sabbath gan Lewis William." Adeg arall, "Am yr ordinhad." Adeg arall, "Am bethau y Cyfarfod Misol," "Talu ein ffordd, a gwneuthur cyfiawnder, yr hyn a achlysurwyd trwy wrthgiliad————" "Anog plant y Society rhag myned i'r ffair." "Hysbyswyd na oddefid neb yn yr eglwys i fyned i briodasau pan fyddai y rhai a briodid yn myned i'r stat hono yn anweddus." "Holi penau tenluoedd ynghylch y ddyledswydd deuluaidd." "Rheolau y Society." "Pregethau y Sabbath, gan D. D., Penmachno." "Erthyglau y Gyffes Ffydd." Engreifftiau yn unig yma ac acw ydyw yr uchod. Pe cadwesid y llyfr fel hyn yn ddifwlch, buasai cyfoeth o hanes yr eglwys ar gael, ond ni wnaed hyny ond ar adegau yn unig.

Y CYMDEITHASFAOEDD.

Ni chedwid Cymdeithasfaoedd yma yn yr hen amser, yr hyn oedd braidd yn hynod, ac ystyried fod yr eglwys y pryd hwnw yn un mor gref ac enwog yn y sir. Ond y tebyg ydyw, mai yr achos o hyn oedd fod yr ardal yn wasgarog, ac ychydig o dai ynddi yn gymwys i letya dieithriaid. Y gyntaf y ceir ei hanes oedd yr un a gynhaliwyd yma yn mis Hydref, 1845. Nid oedd hon yn Gymdeithasfa Chwarterol, ond un sirol a gedwid yn lle y rhai fyddai arferol a bod yn flynyddol yn Nolgellau a Thowyn. Ceir ei hanes yn y Goleuad am Dachwedd 29, 1888. Cynhelid y moddion cyhoeddus yn y maes agored o flaen y capel presenol. Pregethwyd y nos gyntaf gan y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a L. Edwards, M.A., Bala. Yr ail noson, gan y Parchn. John Phillips, Bangor, a John Hughes, Liverpool. "Ar ol y bregeth hon," adroddai un o'r dieithriaid oedd wedi dyfod i'r Sassiwn, "Cyhoeddodd Mr.