Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/354

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar lawer cyfrif, ystyrid hi yn un o'r llywodraethwyr yn yr eglwys. Pan yr aeth ei chlyw yn ddrwg, eisteddai ar risiau y pulpud. Yn y seiat o flaen Cyfarfod Misol a gynhelid yn y Dyffryn, gofynai Mr. Humphreys i Mrs. Pugh, medd ein hysbysydd, "Wel modryb, beth sydd arnoch chwi eisiau at y Cyfarfod Misol?" "Mae arnaf eisiau," atebai hithau, "hyn a hyn o wenith, a hyn a hyn o fenyn, a hyn a hyn o bytatws," &c. Yna penderfynid gan yr eglwys fod iddi gael yr hyn a ofynid ganddi, ac weithiau trefnid yn gyhoeddus fod un i dd'od a'r peth yma, a'r llall y peth arall, yn ol fel byddai yr angen, ac yn ol fel byddai cyfleusdra y gwahanol aelodau. Fel hyn yn gyffredin yn y dyddiau hyny, y trefnid tuag at dreuliau allanol y Cyfarfod Misol. Sarah Jones, Llanddwywe, oodd un arall o'r ffyddloniaid. Er ei bod yn cadw tafarn, profodd y wraig hon fod byw yn dduwiol yn beth posibl mewn unrhyw sefyllfa. "Cedwid dyledswydd yn y teulu hwyr a boreu, a gweinyddai hithau yn ei chylch yn y gwasanaeth." Gadawodd ar ei hol gymeriad anrhydeddus; wyr iddi hi ydyw y Parch. W. Davies, Llanegryn, ac wyrion iddi hefyd ydyw Mri. W. Price Jones, Chatham, Liverpool, a Robert Jones, gynt o Werneinion. "Gwraig gynes ei chalon, ac yn galw ar enw yr Arglwydd, ac yn ei garu o galon bur ydoedd Betti Roberts o Uwchlaw'rcoed. Yr oedd yn un o'r rhai tebycaf a ellid dybio a fuasai ymhlith y gwragedd a barotoisant beraroglau i eneinio corff yr Arglwydd Iesu." Mrs. Margaret Davies, Taltreuddyn bach, oedd o gymeriad uchel o ran synwyr a gras. Darllenodd hi, ebai Mr. Humphreys, draethawd Dr. Edwards ar yr Iawn amryw weithiau drosodd, ac yr oedd yn ei ddeall yn lled. drwyadl. Mrs. Humphreys, o'r Faeldref, a deilynga y lle amlycaf ymhlith gwragedd rhagorol y Dyffryn. Y mae ei rhinweddau hi yn hysbys trwy Gymru oherwydd ei chysylltiadau teuluaidd. Yr oedd yn uwch na'r cyffredin o ran gwybodaeth a chwaeth. Llinell amlwg yn ei chymeriad oedd y