Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/355

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byddai yn dangos yr un caredigrwydd at y tlawd a'r cyfoethog, ac yn rhoddi yr un parch i bregethwyr o ddoniau bychain a'r rhai o radd uchel yn y Cyfundeb. Duwioldeb a thynerwch oeddynt rinweddau arbenig yn ei chymeriad. Cofnodir yn llyfr yr eglwys iddi huno yn yr Iesu Mehefin 8, 1852.[1] Ei merch, Mrs. Morgan, a ddilynodd yr esiampl odidog a roddwyd iddi gan ei mam. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Gorphenaf, 1888, y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei marwolaeth-ceir y sylw canlynol am dani,—" Coffhawyd gyda theimlad a pharch am ymadawiad Mrs. Morgan, o'r Faeldref, gweddw y diweddar Barch. E. Morgan. Hysbys i bawb o'r Methodistiaid ydyw y gwasanaeth mawr a wnaeth hi i achos crefydd yn ystod ei bywyd. Yn ei pherthynas â'i thad, y Parch. Richard Humphreys, ac â'i phriod drachefn, llanwodd le pwysig yn hanes crefydd yn Sir Feirionydd. Cymerai ddyddordeb helaeth yn llwyddiant crefydd yn holl gylchoedd y Methodistiaid. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf hyddysg yn holl symudiadau y Cyfundeb, a hi a wnaeth wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd Iesu, yn arbenig mewn cynal i fyny freichiau ei phriod, yr hwn a weithiodd mor egniol i gyfodi crefydd yn y wlad. Nid oedd dim pall ar ei charedigrwydd tuag at weision yr Arglwydd, a'r gofal am danynt tra yn lletya yn ei thŷ. Mawr yw y parch a deimlir i'w choffadwriaeth yn y sir hon, a thu allan i'r sir." Enwir hefyd Ann Williams, o Dy'nycae, a Mary Hughes, o Lecheiddior, ymysg canlynwyr ffyddlawn yr Iesu. Y gwragedd duwiol hyn a ymgynullent i ymddiddan â'u gilydd am y pethau a berthynent i Iesu o Nazareth, a throent y gyfeillach yn gyfarfod gweddi. John Roberts, a'i briod, Mrs. Roberts, Shop Isaf, mewn amser

  1. Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r sylwadau uchod, yn gystal a'r crynhodeb a roddwyd am yr Ysgol Sul, i Mr. Rees Roberts, Harlech.