Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/356

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diweddarach a ddangosasant lawer o garedigrwydd tuag at yr achos yma.

Gallesid, yn ddiameu, chwanegu llawer at y rhestr o ffyddloniaid yr eglwys hon, oni buasai ein bod yn ofni myned yn rhy faith. Rhoddir crynhodeb bywgraffyddol am y pregethwyr a'r blaenoriaid fuont feirw, ond y mae amryw wedi dechreu pregethu yma sydd eto yn fyw. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, Hydref 5, 6, 1847, ceir y sylw a ganlyn, -"Coffhawyd am farwolaeth Rowland Davies, Dyffryn, pregethwr oedranus. Crybwyllwyd fod pob lle i feddwl ddarfod iddo farw mewn ffydd a thangnefedd, ac yn nghymeradwyaeth ei gyfeillion yn fawr." Bu y Parch. John Williams yn byw yma dros rai blynyddoedd, cyn ei ymfudiad i'r America, oherwydd cysylltiadau ei briod. Ceir ei hanes ef ynglyn â Salem, Dolgellau. Genedigol oddiyma hefyd oedd y diweddar Dr. Morris Davies, Caernarfon; yn Nolgellau y dechreuodd bregethu. Yma y dechreuodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge, bregethu. Y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, a ddechreuodd ei flwyddyn brawf Awst 1871; E. V. Humphreys, yn awr o Bontddu, Medi 1879. Mr. John Davies, hefyd, a ddechreuodd bregethu o fewn chwech neu saith mlynedd yn flaenorol i'r tri diweddaf.

Y mae lliaws o ddynion rhagorol wedi symud i'r America, o dro i dro, o ardal y Dyffryn. Y Parch. R. G. Jones, Minnesota, a anwyd yn Caegarw. Pregethodd lawer i'r gwartheg yn y Benar isaf, pan yno mewn gwasanaeth; dechreuodd bregethu i'w gydwladwyr yn Wisconsin. Bu yn llafurus am flynyddau yn Blue Mounds. Mae ganddo un o'r llyfrgelloedd goreu yn y wlad. Thomas Richards, mab Dolgau, oedd un o ragorolion y ddaear. Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd gyda'r Annibynwyr yn Pike Grove dros amryw flynyddau, ac wedi hyny gyda'r Methodistiaid yn ninas Racine tra fu byw. Robert Owen, o Bronyfoel ganol, a fu