Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/357

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ffyddlawn a gweithgar ymhob cylch yn nghyffiniau Racine, ac yn olynol hyd derfyn ei oes, yn Caledonia, Wisconsin. Thomas Richards, ei frawd-yn-nghyfraith, oedd yn grefyddwr gwresog, a swyddog eglwysig ffyddlon yn America. Griffith Owen, brawd i'r diweddar flaenor, David Owen, sydd wedi bod yn ffyddlon yn ardal Lime Springs, Iowa, a manau eraill, dros oes faith, gyda phob rhan o achos crefydd, yn arbenig yr Ysgol Sul. Mr. John G. Jones a anwyd yn Meifod isaf; preswylia yn awr yn Red Oak, Iowa. Cydnabyddir ef fel un o'r blaenoriaid mwyaf ymdrechgar a ffyddlon yn y Dalaeth. Mr. Thomas Lloyd Williams, Racine, yr hwn a ymfudodd o'r Dyffryn ddeugain mlynedd yn ol, sydd adnabyddus iawn yn yr America, fel un wedi bod yn wasanaethgar i'w gydgenedl mewn llawer o gylchoedd.

Y BLAENORIAID.

GRIFFITH RICHARD, SIOP Y CAPEL.

Efe oedd y blaenor cyntaf; cychwynydd yr achos, ei brif noddwr a'i fagwrydd o'i fabandod; yn ei dy ef y cadwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf; efe a roddodd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd y capel cyntaf, sef y Capel Coch, ac ar ei draul ef yn benaf yr adeiladwyd ef. Yr oedd yn ewythr i'r Parch. Richard Humphreys, frawd ei dad. Dywedai y doethwr o'r Faeldref am Griffith Richard, "Ei fod yn meddu ar raddau helaeth o foneddigeiddrwydd y Bereaid-yn drwyadl onest ymhob peth, heb ganddo ddim tebyg i ffug-sancteiddrwydd crefyddol yn lled gwta yn ei ddull, ac yn tueddu at fod yn ddreng."

HARRY ROBERTS, UWCHLAW'RCOED.

Amaethwr cyfrifol oedd ef, ac yn sefyll o ran ei alluoedd a'i ddylanwad, uwchlaw ei gydwladwyr yn gyffredin. Mewn achosion o bwys, y rhai y methai ei gymydogion eu penderfynu,