Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/358

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu dywediad fyddai, "Gofynwch i Harri Roberts, y mae efe ond odid yn lled agos i'r line." Yr oedd yn meddu ar ddawn yn gystal a barn, ac uwchlaw'r cwbl, yn ŵr ffyddlawn gyda'r hyn a ymddiriedid iddo. "Efe," ebai Methodistiaeth Cymru, "a fyddai yn gofalu mwyaf am amgylchiadau yr achos crefyddol, a gellid dywedyd am dano fel am Timotheus, 'ei fod yn gwir ofalu.'" Magodd dŷad o blant, y rhai a ddaethant yn dra defnyddiol gyda'r achos goreu mewn amryw ardaloedd yn y sir. Bu farw oddeutu 1842, yn 88 mlwydd oed.

SION EVAN, CAETANI.

Cyd-flaenor & Harri Roberts am flynyddoedd lawer. Dyn cadarn yn yr Ysgrythyrau, diysgog mewn buchedd, a sefydlog mewn barn. "Yr oedd Sion Evan," yn ol yr hyn a ysgrifenwyd am dano gan Mr. Humphreys ddeugain mlynedd yn ol, "yn cael ei ystyried yn golofn yn yr eglwys-yn wastad iawn ei dymer. Nid oedd newidiad yr hin grefyddol yn effeithio nemawr ddim arno. Yr oedd yn meddu graddau helaeth o farn, ac yn gymeriad pwysig yn nghydwybodau y sawl a'i hadwaenai." Yr oedd efe yn dad i Morris Jones, blaenor yn niwedd ei oes yn y Bermo. Bu farw Rhagfyr 16, 1839, yn 88 mlwydd oed, wedi bod yn henadur ffyddlon uwchlaw deugain mlynedd.

Yr uchod oeddynt y set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. "Bu rhai o honynt," ebai Mr. Humphreys, "yn haelionus iawn at yr achos, ond yn ddiffygiol, fel llawer o'u cydswyddogion y dyddiau hyny, i addysgu yr eglwys i fod yn haelionus. Ai yr achos yn fynych i ddyled, ond ni ddywedid hyn un amser wrth yr eglwys, ond gwneid y diffyg i fyny gan un o honynt hwy eu hunain."

WILLIAM EVANS, CAE'RLLWYN.

Dewiswyd ef; yn flaenor yn un o chwech oddeutu y flwyddyn 1837, a bu farw ddiwedd y flwyddyn 1857. Dyn unplyg,