Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/359

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cywir, a dihoced. Un o'i ragoriaethau oedd y medrai ddweyd gair yn ei amser, a hwnw yn air i bwrpas. "Yr oedd ganddo halen ynddo ei hun, ac yr oedd ef ei hun yn halen i erail!."

WILLIAM OWEN, BRONYFOEL.

Pan yn fachgen, fel yn hysbysir, elai i gapel y Methodistiaid yn Harlech, a dychwelwyd ef at grefydd yn amser diwygiad Beddgelert. Ymhen ysbaid o amser ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor, a bu yn cydweithio dros ryw dymor â'r set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. Yr oedd yn ddyn o feddwl uwch na'r cyffredin; ceir ei enw rai gweithiau fel un defnyddiol gyda'r Ysgol Sul yr y cylch. Ond ni byddai yn cydweled â'r brodyr mwyaf blaenllaw gyda symudiadau y Cyfundeb. Bu farw Tach. 20, 1862, yn 61 oed.

JOHN OWEN, BYRLLYSG.

Daeth ef at grefydd yn ieuanc, a gwnaeth ymdrech mawr i ddilyn crefydd trwy lawer o anhawsderau yn nhymor ei ieuenctid. Bu yn byw yn ardal y Gwynfryn, ac yr oedd yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys yno. Geiriau a ddywedir am dano tra y bu yn y Gwynfryn ydynt, "Yr oedd yn gymeradwy iawn gan yr eglwys, a chanddo brofiad melus bob amser." Neillduwyd ef yn flaenor ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, a pharhaodd yn ffyddlon, ac i gynyddu mewn duwioldeb i'r diwedd. Bu farw Mehefin, 1874, yn 77 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dair blynedd a deugain.

EVAN EVANS, CARLEG.

Oedd ŵr deallus ac ymchwilgar; bu o ddefnydd mawr gyda'r -Ysgol Sul, yn arolygwr, ac yn athraw ar y dosbarthiadau uchaf. Bu farw yn 1883, wedi cyraedd yr oedran teg o 90. Oherwydd rhyw amgylchiadau, yr oedd wedi cilio o'r swydd o flaenor er's blynyddau.