Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/360

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MORGAN OWEN, O EGRYN (wedi hyny o'r Glyn, Talsarnau),

a neillduwyd yn flaenor oddeutu y flwyddyn 1837. Gŵr a berchid yn fawr oedd ef gan fyd ac eglwys. Rhoddai ei sefyllfa yn y byd ddylanwad iddo, ac heblaw hyny yr oedd yn ŵr bucheddol yn llawn ystyr y gair, a'i rodiad bob amser yn wastad ac uniawn. Rhagorai yn fawr fel athraw yn yr Ysgol Sul. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nhalsarnau, lle y neillduwyd ef drachefn yn flaenor; ac yno y bu farw, Gorphenaf 12, 1865, yn 78 mlwydd oed. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Owen, Penrhyndeudraeth.

WILLIAM EVANS, LLECHEIDDIOR.

Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, ond cafodd dröedigaeth amlwg iawn. Ar ddechreuad dirwest yn y wlad, daeth yn areithiwr selog o blaid y symudiad. Tra yn myned i areithio gyda Mr. Humphreys un tro, dywedai, "Mae arnaf ofn na wnaiff y bobl ddim gwrando arnaf, am i mi fod yn ddyn mor ofer fy hun." Ebai Mr. Humphreys wrtho, "Tafl garreg atat dy hun yn gyntaf, fe fydd y bobl yn sicr o wrando arnat." Ac felly y gwnaent. Neillduwyd ef yn flaenor yr un adeg a'r ddau frawd a enwyd ddiweddaf, ac ymhen tua deng mlynedd, ymfudodd i America.

EDWARD JONES, HENDREWAELOD.

O'r Gwynfryn y daeth ef i gartrefu i'r Dyffryn. Bu yn flaenor yno, a neillduwyd ef i'r swydd yma yn un o'r chwech yn 1837. Gellir dweyd am dano yntau, fel llawer o'i frodyr y dyddiau hyny, ei fod yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn yr hen awduron, megis Baxter a Gurnal.

EDWARD JONES, Y PANDY (wedi hyny o'r Frongoch).

O ran gweithgarwch a dylanwad, safai ef yn uchel, os nad yr uchaf oll yn rhestr faith blaenoriaid eglwys y Dyffryn. Bu