Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/361

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn flaenor pan yn ddyn lled ieuanc yn Salem, Dolgellau; ac wedi symud i drigianu yn y Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor yma. Gwnaeth ddefnydd da o'r ddau fyd: o'r byd hwn, fel yr oedd wedi casglu digon i'w alluogi i fyw arno yn ei henaint; o'r byd arall, fel yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ymwybodol ei fod yn sicr o feddianu coron y bywyd. Nodweddid ei holl ymwneyd â chrefydd gan dynerwch a chymedroldeb. Mor batriarchaidd yr eisteddai yn niwedd ei oes yn y sêt fawr, ac mor addolgar fyddai yr olwg arno yn gwrando y weinidogaeth ! A byddai ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath yn hynod o briodol. Bu ef yn cynal breichiau y ddau weinidog enwog, y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan, trwy holl gydol eu hoes weinidogaethol, a mawr oedd eu parch hwythau iddo, oblegid y cynorthwy a roddai iddynt, ac a roddai trwy hyny i achos Duw yn yr ardal. Cymerwyd ef oddiar y ddaear Hydref 20, 1876, wedi cyraedd yr oedran teg o 88 mlwydd, ac wedi bod yn ddiacon am bum mlynedd a thriugain.

EVAN WILLIAMS, HENDRE-EIRIAN.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor Ionawr 1857, ac yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1865, "gwnaed crybwylliad parchus am farwolaeth Mr. Evan Williams, Hendre-eirian, yr hwn oedd yn ddiacon nodedig am ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn eglwys y Dyffryn; yr oedd hefyd yn drysorydd y Genhadaeth Sirol, ac yn ei farwolaeth collodd yr achos hwn un a ofalai bob amser am ei gyflawni yn ffyddlon." Dyn rhagorol iawn oedd ef ymhob ystyr; cariai ei farn a'i gymeriad ddylanwad mawr yn yr ardal, ac yn yr eglwys yr oedd yn flaenor ynddi. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol, dau o ba rai sydd yn flaenoriaid yn y Dyffryn yn awr.

DAVID OWEN.

Ganwyd ef yn y Goetre, Bontddu. Bu yn flaenor da yno,