Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/362

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel ei dad o'i flaen. Ymhen amser symudodd i fyw i'r Penrhyn, ar lan afon Abermaw, a bu yn flaenor gweithgar yn eglwys Seion dros lawer o flynyddoedd. Am yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, yr oedd yn byw yn y Dyffryn. Rhwng y tri lle, bu yn gwasanaethu swydd diacon am haner can mlynedd. Dyn o dueddiadau tawel oedd; mab tangnefedd. Yr oedd yn bwyllog a doeth, ac yn meddu craffder tuhwnt i'r cyffredin. Profodd ei hun bob amser yn ŵr o ymddiried. Daeth yn gysurus ei amgylchiadau cyn diwedd ei oes. Ac wedi gorphen ei yrfa ddaearol, cafodd fynediad helaeth i mewn "i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." Bu farw Mai 3, 1883, yn 84 mlwydd oed. Mae ei goffadwriaeth yn barchus yn yr ardaloedd y bu yn byw ynddynt.

OWEN HUGHES, YNYS.

Yr oedd yn frawd i'r Parch. R. Hughes, Uwchlaw'rffynon. Daeth yma o Harlech. Dewiswyd ef yn flaenor tua 1865, ac ymadawodd yn fuan wedi hyny i Sir Gaernarfon.

RICHARD WILLIAMS, CAE'RFFYNON.

Ymunodd â chrefydd, fel ein hysbyswyd, Awst 30, 1853. Gwasanaethodd swydd blaenor am un mlynedd ar hugain. Bu farw Rhagfyr 11, 1886, yn 65 oed. Efe oedd y blaenor hynaf yn yr eglwys ar y pryd. Er fod ei ffordd ymhell i'r capel, nid oedd neb yn fwy cyson yn y moddion. Yn y cyfarfodydd eglwysig siaradai gyda gwres ac angerddoldeb. Yr oedd yn wastad yn barod, a'i gyngor yn briodol. Dywedodd lawer ar haelioni crefyddol, a chafodd ei erlid ar dafod gan aml un. Enillodd le dwfn yn serch yr eglwys, ac yr oedd iddo barch mawr yn yr ardal yn gyffredinol. Rhoed iddo gladdedigaeth gŵr Duw.

JOHN JONES, YSTUMGWERN.

Mab Nantymynach, gerllaw Bryncrug, ydoedd ef-amaethdy