Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/364

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadw ysgol ddyddiol. A'r crybwylliad cyntaf am dano yn ei gysylltiadau cyhoeddus ydyw yr hyn a geir ynglŷn â Chyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Maethlon, Chwefror 22 23, 1843, pryd yr oedd y Parch. Cadwaladr Owen yn Gymedrolwr. Yn y Cyfarfod Misol hwnw y rhoddwyd caniatad iddo i ddechreu pregethu, ac adnabyddid ef yr adeg hono fel "Thomas Williams, Athraw Ysgol yn Corris." Yr oedd yn gymeradwy yn Nghorris, nid yn unig fel athraw ysgol, ond hefyd fel dyn ieuanc gweithgar a defnyddiol gyda chrefydd. Daeth i'r Dyffryn ar y cyntaf i gadw ysgol ddyddiol, a chanmolid ef fel ysgolfeistr da. Heblaw pregethu ar y Sabbath, llafuriodd lawer hefyd, gyda chymeradwyaeth, mewn cysylltiad â chyfarfodydd ysgolion yn ngwahanol ddosbarthiadau y sir, a meddai raddau helaeth o gymhwysderau at y gwaith hwn. Ymhen amser, aeth i gysylltiadau â'r byd, yr hyn fu yn anfantais iddo gyda'r weinidogaeth. Parhaodd i bregethu, modd bynag, tra daliodd ei nerth, a bu farw, mewn llawn sicrwydd gobaith, Hydref 16, 1861. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny, gwnaethpwyd coffa am dano, a dywedid, "Fod ei haul wedi machludo yn bur obeithiol, gan arwyddo fod iddo dranoeth teg wedi yr holl ystormydd yr aethai trwyddynt; a bod y gwirioneddau yr oedd wedi eu proffesu, a'u cymell ar eraill dros amryw flynyddoedd, yn greigiau cedyrn dan ei draed yn yr awr gyfyngaf."

Y PARCHEDIG RICHARD HUMPHREYS.

Cyfarfyddir âg enwau y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan yn amlach yn yr hanes hwn na neb arall; y rheswm am hyny ydyw, hwy eu dau fuont brif arweinwyr crefydd, nid yn unig yn y Dyffryn, ond yn holl eglwysi Gorllewin Meirionydd—y cyntaf am dros ddeugain mlynedd, a'r olaf am ddeng mlynedd ar hugain; a hwy eu dau ydynt hyd heddyw y ddwy seren ddisgleiriaf yn ffurfafen yr eglwysi.