Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/365

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar un olwg, nid oes eisiau adrodd dim o'u hanes hwy, gan ei fod eisoes yn ddigon hysbys. Nis gellir ychwaith mewn ychydig o dudalenau wneuthur cyfiawnder â'r lle a deilyngant, ac â'r gwaith a wnaethant. O'r tu arall, byddai gadael allan y ddau weithiwr penaf, yn peri bwlch a gwagder yn yr hanes. Er mwyn y rhai nad oeddynt yn eu hadnabod, rhoddwn grynhodeb byr o'u hanes, cyffelyb i'r gweinidogion eraill, mewn cysylltiad â'u cartref, gan adael eu gwaith a'u llafur cyffredinol i gael sylw yn mhellach ymlaen, yn y benod ar y Cyfarfod Misol. Ysgrifenwyd Cofiant rhagorol am Mr. Humphreys, gan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a gyhoeddwyd gan Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn y flwyddyn 1873.

Yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn Ddyffrynwr trwyad!. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, yn Ngwernycanyddion, tyddyn heb fod yn nepell o'r Faeldref, cartref ei dad a'i daid. Yr oedd ei hynafiaid yn bobl barchusaf y gymydogaeth; ei dad a'i fam yn aelodau crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'i berthynasau ef a roddodd y cychwyniad cyntaf i Ymneillduaeth yn y Dyffryn. Tra yr oedd ef yn ieuanc, symudodd y teulu i drigianu i'r Faeldref, enw a ddaeth, oblegid cyhoeddusrwydd yr enwogion fu yn byw yno, yn adnabyddus trwy Gymru. Gan ei fod o duedd fyfyrgar pan yn blentyn, ni ystyrid ef gan y plant eraill mor galled a hwy. Ymhen amser, gofynai un o'i gyfoedion iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys? Nid oeddym ni yn eich ystyried ehwi mor galled a ni pan yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi myned o'n blaen ymhell." "Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, "fod pob llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Pan ydoedd o gylch un ar hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd; ac un o'r rhai a'i derbyniodd i'r eglwys y noson y cyflwynodd ei hun iddi ydoedd y Parch. Daniel Evans, yr hwn oedd yn cadw ysgol