Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/366

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyddiol yn y gymydogaeth. Ymhen ysbaid o amser, dewiswyd ef yn flaenor. A dechreuodd bregethu yn 1819, pan yn naw ar hugain oed.

Bu cysylltiadau teuluaidd Mr. Humphreys yn hynod o ddedwydd. Priododd Miss Anne Griffith, merch i Cadben William Griffith, Abermaw, un o flaenoriaid mwyaf dylanwadol y sir. Daeth eu cartref yn gartref gweinidogion y gair, ac yn ganolbwynt crefydd y wlad. Yr oedd swyn ac atdyniad yn perthyn i'r Faeldref; cai dieithr a phriodor, gweision a morwynion, ac hyd yn nod yr anifeiliaid direswm bob chwareu teg yno. Yr oedd y pen teulu yn offeiriad, yn broffwyd, ac yn frenin, yn yr ystyr gyflawnaf. Wedi byw yn hapus am ddeng mlynedd ar hugain, collodd ei briod. Bu am rai blynyddau wedi hyn yn byw yn y Faeldref, gyda'i ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. Morgan. Yn y flwyddyn 1858, priododd yr ail waith & Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal. Ac yn Ngwerniago y treuliodd flynyddoedd olaf ei oes. Bu un ferch o'r briodas hon, sef yr hon a ddaeth yn briod i'r Parch. William Thomas, yn awr o Bwllheli. Yr oedd hithau yn meddu synwyr, a ffraethineb, a chrefydd ei thad.

Yr oedd dylanwad Mr. Humphreys yn fawr iawn yn y Dyffryn ar hyd ei oes. Meddai y ddynoliaeth oreu, a synwyr cyffredin ymhell uwchlaw y cyffredin. Ymgymysgai â'r bobl; siaradai â hwy am eu helyntion; cydymdeimlai â hwy yn eu trallodion; gweinyddai gysur iddynt trwy ei haelioni a'i ymMedrai y ffordd i serchiadau pawb, adroddion diddanus. oblegid yr oedd yn bencampwr am ddeall y natur ddynol. Heblaw hyny, yr oedd pwysau anghyffredin yn ei gymeriad fel Oll yn oll, ni bu yr un dyn yn amdyn crefyddol a duwiol. gylchoedd ei gartref yn meddu mwy o ddylanwad personol. Hynodrwydd mawr ynddo ydoedd ei ffraeth-airiau, ei ddywediadau parod, a'i sylwadau synhwyrlawn, y rhai, pe y cesglid hwy ynghyd, a wnaent gyfrol o gryn faintioli. "Bydd llawer