Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/367

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'ch dywediadau," ebai Dr. Edwards, y Bala, wrtho mewn llythyr, "mewn cof fel diarhebion ymysg y Cymry am oesoedd." Un o frodorion y Dyffryn, sef Mr. Rees Roberts, Harlech, a rydd y desgrifiad canlynol o hono yn ei gartref,-

"Yr oedd yr olwg ar ei berson pan yn ymsymud tua'r capel ar noson seiat, yn deffroi ar unwaith yn y fynwes bob syniad hawddgar a theimlad caruaidd; ei gorff talgryf, y wynebpryd llydan braf, llygaid gloewon mawrion, ei bwyll dihafal, gyda thymer addfwyn a da, fel olew yn peri i wyneb y cyfan ddisgleirio, fel nad oedd fodd peidio ei edmygu a'i garu ar unwaith. Yr oedd yn gyffelyb i long marsiandwr fawr, yn nofio ar fôr âg olew yn dywalltedig ar hyd ei wyneb, gan mor dawel a digyffro yr ymsymudai, a hono yn llwythog o nwyddau gwerthfawrocaf y wlad bell, i gael eu rhanu yn rhad ac yn rhodd i bechaduriaid tlotaf y fro. Teimlwn fod cadeiriau uniondeb, tynerwch, a doethineb, ie, mwyneidd-dra doethineb, yn cael eu llenwi yn deilwng pan y byddai ef yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig."

Yn holl gylchoedd cyhoeddus y wlad, ac yn arbenig cylchoedd cyhoeddus y Cyfundeb, safai Mr. Humphreys ymysg y tywysogion. Efe a gyfrifid yn un o gedyrn dirwest Cymru. Rhoddid ef bob amser i areithio yn lleoedd amlaf y bobl, a byth ni fethai a sicrhau yr hoelion. Fel gwladwr, perchid ac edmygid ef gan bob dosbarth o ddynion. Fel cynghorwr ac arweinydd y Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ni chafwyd neb yn ei amser ef, nac wedi hyny, yn fwy medrus a llwyddianus. Ond nesaodd ei ddyddiau yntau i farw. Ar ol pregethu yn felus yn y Dyffryn, ar ryw foreu Sabbath, tua diwedd ei oes, dywedai Edward Jones, y blaenor, wrtho, "Yr ydych chwi yn lwcus iawn, Mr. Humphreys, yr ydych chwi yn sicr o'r nefoedd." "Na, nid ydwyf ddim yn siwr," atebai yntau, "ond yr ydwyf yn siwr o hyn, fy mod yn caru pawb sydd yn caru Duw, ac yn casau pawb sydd yn pechu yn wirfoddol