Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/368

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei erbyn, ac yr wyf yn meddwl na rydd fy Nghreawdwr mo honof gyda'r rhai sydd gas genyf." Cyrhaeddodd derfyn ei yrfa ddaearol Chwefror 15fed, 1863, yn 72 mlwydd oed. Gwyr bucheddol" a'i dygasant i'w gladdu i ymyl capel y. Dyffryn, "ac a wnaethant alar mawr am dano ef."

Y PARCHEDIG EDWARD MORGAN.

Ganwyd ef yn y Pentref, treflan fechan yn agos i Lanidloes, Medi 20fed, 1817. Arferai y Methodistiaid gadw Ysgol Sabbothol yn nhŷ ei dad, a chafodd y plant felly y fantais o fod mewn awyrgylch grefyddol, ac i ymgydnabyddu â'r Beibl. Symudodd y teulu, pan oedd Edward tua deuddeg oed, i fyw i Lanidloes, ac yn y dref hono y treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid. Dygwyd ef i fyny yn siopwr; ac ar ol treulio ei brentisiaeth, aeth i wasanaeth y Mri. Edmund a William Cleaton. Bu farw ei fam, yr hon oedd yn wraig grefyddol, pan oedd ef yn ieuanc, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys arno. Nid hir ar ol hyn ymunodd yntau â'r eglwys. Oddeutu yr un pryd ymunodd, hefyd, â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon oedd yr adeg hono yn flodeuog yn y dref. Tystiolaeth ei gydnabod oedd, ei fod y blynyddoedd hyn yn dangos syched angerddol am wybodaeth. Treuliai bob mynyd o'i oriau hamddenol, nos a dydd, i ddiwyllo ei hun; byddai ei lyfr yn agored y tu ol i'r counter pan na byddai cwsmeriaid yn y siop; a mynai gael canwyll hir i fyned i'w wely, er mwyn cael darllen cyn rhoddi ei ben i lawr i gysgu. Daeth ei ddoniau cyhoeddus i'r golwg mewn cysylltiad a'r gymdeithas lenyddol, cymdeithas y Cymreigyddion, a'r gymdeithas ddirwestol. Gosodwyd ef hefyd yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd yn flodeuog iawn yn Llanidloes yn ei amser ef. Yn nechreu y flwyddyn 1839, ac efe yn ychydig dros un ar hugain oed, y mae yn cyfeirio ei gamrau tuag Athrofa y Bala. Ysgrifenodd lyth at lywydd yr Athrofa, y Parch. Dr.