Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/369

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edwards, i ymholi o berthynas i goleg Cheshunt. Anfonodd yr athraw parchedig yn ol, y gallai gael ysgol am ddim yn y Bala, er nad oedd wedi dechreu pregethu, oblegid yn y cyfnod hwnw yr oedd gan lywydd yr athrofa hawl i wneuthur hyn o gymwynas, Wedi bod yn y Bala yn agos i flwyddyn, daeth cais o'r Dyffryn, trwy y Parch. Richard Humphreys, am wr ieuanc i gadw ysgol ddyddiol yn yr ardal. Anogodd Dr. Edwards Edward Morgan i dderbyn y cynygiad. A hyn y cydsyniodd yntau; ac yn nechreu Chwefror, 1840, mae yn dyfod i faes newydd ei lafur fel ysgolfeistr, lle oedd yn hollol ddieithr iddo. Cynhelid yr ysgol yn nghapel y Methodistiaid. Daeth yn fuan yn un o'r ysgolion mwyaf blodeuog yn y wlad, oblegid yr oedd ynddi yn awr ysgolfeistr medrus a meistrolgar.

Yr oedd Mr. Humphreys yn noddwr o'r fath oreu i'r ysgolfeistr. Deallodd ei fod yn meddu talentau; anogodd ef i ddechreu pregethu, a rhoddodd bob cyfleustra iddo i ymbarotoi, yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi. Ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840, "Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw, a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gŵr ieuanc sydd ar ei feddwl fyned i bregethu." Y gŵr ieuanc hwn oedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn a ddaeth cyn pen ychydig o flynyddoedd, trwy ei hyawdledd anghymarol, i wefreiddio cynulleidfaoedd. lliosog ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb fel un o enwogion penaf Cymru. Yn hen gapel y Gwynfryn y traddododd ei bregeth gyntaf, Rhagfyr 20fed o'r flwyddyn a grybwyllwyd, ymhen tair wythnos ar ol i'r sylw cyntaf fod ar ei achos yn y Cyfarfod Misol. Parhaodd i gadw ysgol, ac i bregethu ar y Sabbothau, hyd ddechreu 1842, pryd yr aeth i'r Bala am dymor eto. Dychwelodd eilwaith, ymhen tua blwyddyn, i'r Dyffryn i ail ymaflyd yn ei waith. Tua diwedd y flwyddyn 1845, aeth i