Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/370

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edinburgh, i Athrofa Dduwinyddol yr Eglwys Rydd, ac arhosodd yno dros dymor neu ddau. Yn Nghymdeithasfa y Bala, 1847, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Daeth allan yn rymus fel pregethwr ar y cychwyn. Cafodd genad i fyned i daith y Bontddu a Llanelltyd un o'r Sabbothau cyntaf ar ol dechreu, ac aeth son am dano ar led fel pregethwr rhagorol. Gofynai Lewis Morris yn y Cyfarfod Misol ar ol hyny, "Mi leiciwn i wybod pwy roddodd genad i'r pregethwr ieuanc i dori dros ei derfyn?" "Y ni roes genad iddo," atebai y Parch. R. Griffith, Dolgellau, "ac fe bregetha yn well na chwi na finau bob dydd." Llafuriodd yn galed ac egniol y tymor hwn ar ei oes. Cyfodai yn foreu, ac elai yn hwyr i gysgu, y gauaf fel yr haf. Trwy ddiwydrwydd a dyfal-barhad diail cyfoethogodd ei feddwl, a chymhwysodd ei hun at waith mawr ei fywyd. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi ei addurno gan ei Arglwydd â thalentau disglaer i waith y weinidogaeth. Ac ni ddarfu neb erioed ymgysegru yn fwy llwyr i waith ei swydd nag efe. Arferai ef ei hun ddweyd, os oedd rhyw ragoriaeth ynddo ar ei frodyr, fod hyny i'w briodoli i'w lafur a'i ddiwydrwydd, ac nid i'w alluoedd.

Yn mis Awst, 1847, blwyddyn ei ordeiniad, y mae yn ymgymeryd âg eglwys Salem, Dolgellau, fel ei gweinidog—yr engraifft gyntaf o weinidog cyflogedig yn y sir. Wedi llenwi y cylch hwnw gyda llwyddiant mawr am ddwy flynedd, y mae yn dychwelyd i'r Dyffryn, ac yr ydym yn gweled ei enw yn cael ei roddi i lawr yn llyfr yr eglwys yno, Awst 1, 1849. Yr achlysur iddo ddychwelyd i'r Dyffryn yn awr ydoedd, ei fynediad i'r ystad briodasol gyda merch ieuengaf y Parch. Richard Humphreys. Yma yr arhosodd bellach hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd cysylltiad gweinidogaethol rhyngddo âg eglwys y Dyffryn, a phregethai yma un Sabbath yn y mis, ac nid oedd yn fwy poblogaidd yn unman nag yn ei gartref ei hun. Heblaw llafurio yn ei ardal ac ymhlith pobl ei ofal, llafuriodd