Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/371

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn helaethach na'i frodyr oll yn nghylch y Cyfarfod Misol, ac ymhob cylch a berthynai i'r Cyfundeb. Dygwyd oddiamgylch yn ei amser ef, a thrwy ei offerynoliaeth ef, gyfnewidiadau a diwygiadau mawrion, y fath na chlybuwyd am danynt er dechreuad Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Dau brif orchestwaith ei fywyd, yn ychwanegol at ei waith penaf, sef pregethu efengyl y deyrnas, oeddynt,-casglu cronfa o 26,000p. at Athrofa y Bala, a sefydlu gweinidogion ar eglwysi Sir Feirionydd. Ceir gweled ei lafur yn y cysylltiad hwn yn mhellach ymlaen yn yr hanes. Wedi oes lafurus a nodedig o lwyddianus, cymerwyd ef i dderbyn ei wobr, Mai 9fed, 1871, yn yr oedran cynar o 53. A theimlid drwy holl wersyll y Methodistiaid y dydd hwnw fod "tywysog a gŵr mawr yn Israel" wedi syrthio. Gadawodd ar ei ol weddw-hithau hefyd erbyn hyn wedi ei chymeryd i'r orphwysfa—ac wyth o blant. Mab iddo ef ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge. Colled fawr, a pheth i ofidio o'i herwydd ydyw, na buasai cofiant i ŵr mor enwog â Mr. Morgan wedi ei ysgrifenu ymhell cyn hyn. Ond "gwell hwyr na hwyrach," hyderir y ceir un cyn hir, fel y mae yr addewid wedi ei rhoddi.

GWYNFRYN.

Er fod y Gwynfryn yn hen achos, nid oes ond y nesaf peth i ddim i'w gael yn argraffedig am dano yn unman. Dwy ffaith yn unig, hyd y gwelsom, a goffheir yn Methodistiaeth Cymru am yr ardal, sef am y bregeth a bregethwyd yn Mhenrhiw-newydd, ac un arall a bregethwyd yn agos i'r Gwynfryn. Dywedir mai y bregeth gyntaf a bregethwyd gan yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth oedd gan Mr. Richard Tibbot, yn Mhenrhiw-newydd, ond nid yw yr amser yn cael ei nodi. Yr hanes am yr odfa arall yw yr hyn a ganlyn:—"Sonir llawer am odfa hynod a ddigwyddodd yn agos i'r Gwynfryn,