Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/373

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor ddigwmpas, ac mewn iaith ac arddull mor briodol, rhoddir llawer o hono yma fel yr ysgrifenodd hi ef.

Dechreuodd y Methodistiaid gynal moddion rheolaidd mewn tŷ anedd, o'r enw Rhwng-y-ddwy-bont. Ac yn yr un man, wedi hyny, y dechreuodd y brodyr y Wesleyaid a'r Bedyddwyr gynal moddion. Yr oedd yr hen dŷ yn sefyll hyd yn ddiweddar fel yr ydoedd y pryd hwnw. Yno, hefyd, y cynhaliwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn y gymydogaeth. Yr oedd hyn oddeutu y flwyddyn 1800, neu feallai beth yn gynt. Ychydig o enwau y proffeswyr cyntaf yn Rhwng-y-ddwy-bont sydd ar gael, ond mae yr ychydig sydd yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth, John Jones, neu fel y gelwid ef, Sion Jones, a'i wraig Sian Dafydd, a'i chwaer hithau, Betti Dafydd. Sion Gruffydd, Tanygraig, a Betti ac Ann Rhobert, Penrhiw-newydd. Yr oedd yr hen chwiorydd hyn yn dduwiol ddiniwed, ac yn caru achos Iesu Grist yn fawr iawn. Byddai Betti Dafydd, ar ol iddi fyned yn hen, a chael ei gosod mewn teulu arall, am gael ei thê heb ddim siwgr ynddo, er mwyn, fel y dywedai, gael ceiniog i'w rhoddi at yr achos goreu erioed." Nid yw yn wybyddus pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys yma, ond y brodyr a'r chwiorydd uchod, cyn belled ag y cafwyd yr hanes, oedd y prif rai o aelodau yr eglwys. Yr oedd achos rheolaidd wedi ei sefydlu yn yr ardaloedd o'r ddwy ochr i'r Gwynfryn, sef Harlech a'r Dyffryn, er yn foreu, a diameu mai i'r naill neu y llall o'r eglwysi hyn yr elai hyny o grefyddwyr a breswylient yn yr ardal hon ar y cyntaf. Hyd y gellir cyraedd sicrwydd, oddeutu dechreu y ganrif bresenol y dechreuwyd yr achos yma yn ffurfiol a rheolaidd.

Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel cyntaf, yn nghanol pentref y Gwynfryn, ar brydles o driugain mlynedd. Tachwedd y flwyddyn hono y dyddiwyd y weithred, a thelid pum swllt yn flynyddol am y lle. Adeilad bychan diaddurn iawn ydoedd, dim ond un sêt o'i cwmpas, a meinciau ar