Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/374

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawr, a gallery ar y talcen pellaf, gyda grisiau cerig i fyned iddi. Cafodd ei helaethu wedi hyny, a byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu hychwanegu fel y byddai yr angen, Yn 1850, y nifer a allai eistedd ynddynt oedd 120, a gosodid yr oll, am y rhai y talwyd y flwyddyn hono 9p. 17s, 8c. Yr un flwyddyn nid oedd dimai o ddyled arno; a John Lewis a Rees Jones a ofalent am arian yr eisteddleoedd. Cyn i'r capel hwn gyraedd terfyn ei oes, yr oedd golwg mor henafol a dilewyrch arno, fel yr oedd yn ddywediad gan Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mai un o'r profion fod yr efengyl yn ddwyfol oedd, ei bod wedi gallu byw cyhyd yn hen gapel y Gwynfryn. Dyddiad y weithred am y capel newydd, sef yr un presenol, ydyw Ionawr, 1861; prydles 999 mlynedd, ardreth deg swllt. Y nifer all eistedd yn hwn yw 200. Adeiladwyd ef pan oedd y diwygiad crefyddol wedi cyraedd llawn llanw, ac efe oedd un o gapeli newyddion cyntaf y wlad y blynyddoedd hyny. Aed i'r hen gapel am ychydig y boreu Sul olaf y buwyd ynddo, a chadwyd cyfarfod gweddi am ychydig amser. Wedi hyny aed yn orymdaith i'r capel newydd. Darllenodd a gweddiodd yr hen flaenor William Evan yn gyntaf ynddo. Y nos, pregethodd y Parchn. E. Morgan, Dyffryn, a T. Phillips, Henffordd.

Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid, gwneir crybwylliad am frodyr a chwiorydd eraill, ynghyd a'u dywediadau a'u gweithredoedd, sef y cyfryw rai ag a roddant ddangosiad i fesur mawr o'r hyn oedd crefydd a chrefyddwyr yr oes o'r blaen. Ac yn y Gwynfryn, fel mewn lleoedd ereill, yr oedd y chwiorydd ymysg y rhai blaenaf o ddilynwyr yr Arglwydd Iesu. Margaret Jones, Factory, oedd wraig grefyddol iawn, ac yn rhagori llawer mewn galluoedd naturiol ar y cyffredin. Y hi fyddai yn gofalu am y gweinidogion a fyddent yn y daith, ac yr oedd yn flaenllaw gyda dygiad yr achos ymlaen yn ei holl ranau. Yr oedd merch ieuanc a berthynai i'r eglwys wedi priodi dyn hollol ddigrefydd; ymhen amser