Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daeth yn ol i'r society, ac wedi i'r brodyr siarad llawer â hi, cododd Mrs. Jones ar ei thraed, a dywedodd, "Yr ydwyf yn gobeithio, fy ngeneth i, fod yr Arglwydd wedi maddeu i ti, ond os oes rhywbeth a wnelo Efe a thi, faddeui di byth i ti dy hun am y tro wnest ti." Fe'i dywedodd yn rymus ac effeithiol iawn. Os ydyw y wraig hono ar dir y byw, digon tebyg nad yw eto wedi anghofio y geiriau a ddywedwyd wrthi yn y cyfarfod eglwysig hwnw. Sarah Morris, Dinas, oedd wraig nodedig mewn crefydd. Bu yn cynal yr achos yn ffyddlawn am flynyddau lawer, cyfranai yn haelionus, a meddai ewyllys'a chalon i wneyd hyny. Dioddefasai lawer oddiwrth ei phriod yn nechreuad ei phroffes: y noswaith gyntaf y bu yn y society, clôdd ef y drws arni allan, ac yn y beudy y bu y noswaith hono; ond fe liniarodd bob yn ychydig. Adroddir am un amgylchiad a fu yn foddion i'w dyneru. Gwahoddai Sarah Morris y Parch. Daniel Evans i'r Ddinas i letya un nos Sadwrn. "Pa fodd y bydd gyda John Llwyd?" gofynai Daniel Evans. "Gadewch chwi rhyngof fi a John Llwyd," atebai hithau. Nos Sadwrn aeth Daniel Evans i'r Dinas, eisteddai yn bur agos i'r drws; ni ddeuai ymlaen, ac ni roddai ei het o'i law ar un cyfrif. Ymhen amser daeth John Llwyd i'r tŷ; cododd Daniel Evans a dywedodd, "Fe ddaethum i yma heno, John Llwyd, i edrych a gawn lety genych." "Gwell i chwi gael, debyg gen i," atebai John Llwyd. Aeth yntau ymlaen wedi hyny at y tân. Boreu Sul dywedai John Llwyd y buasai yn well iddo gymeryd y gaseg dano i Dalsarnau (yr oedd Talsarnau y pryd hwnw gyda'r Gwynfryn). Diolchodd Daniel Evans iddo yn fawr am ei garedigrwydd. Wedi i Daniel Evans gychwyn, aeth John Llwyd i ben bryn yn agos i'r tŷ, a llech-orweddai yno yn nghysgod careg, er mwyn gweled a fyddai D. Evans yn gyru y gaseg. Ond nid oedd yn gwneyd iddi roddi un cam yn gynt na'i gilydd. Pan y dychwelodd at yr hwyr, aeth J. Llwyd i'r ystabl i edrych a