oedd chwys ar y gaseg. Ond nid oedd dim. Cododd hyny Daniel Evans, a chododd Fethodistiaeth hefyd yn ngolwg John Llwyd. Byddai addoliad teuluaidd yn cael ei gynal yn gyson yn y Dinas,—canu, darllen, a gweddio; ac os na byddai neb yn proffesu yn bresenol, byddai Sarah Morris yn gweinyddu ei hun. Bu yr Ysgol Sul yn cael ei chynal yno am flynyddoedd.
Gwen William, Cwmbychan, oedd wraig dra chrefyddol. Daeth hithau at grefydd flynyddau o flaen ei phriod, a dioddefodd lawer o sarugrwydd oddiwrtho. Ond daeth yntau i wrando yn gyson, ac ymunodd â chrefydd flynyddau cyn diwedd ei oes. Byddai y teulu oll yn y capel yn brydlon erbyn dechreu pob moddion. Pan y byddai gweision y ffermydd yn myned i chwareu ac i hel cnau ar foreu Sul, byddai arnynt fwy o ofn Gwen William na neb arall. Mae rhai o honynt yn byw yn yr ardal eto, ac yn tystio hyny. Byddai Gwen William yn cadw addoliad yn y teulu, ac ar ol i'w gŵr ddyfod i'r society, ceisiai ganddo ef wneyd. Ufuddhaodd yntau, ond ber iawn fyddai y weddi, ac un tro, methodd yn lan a myned ymlaen. "Gwna di," meddai wrth ei wraig, ac felly fu, y hi orphenodd y weddi. Ond er mor syml ydoedd, nid oedd neb yn ameu ei grefydd. Efe oedd wr cywir a pharchus iawn.
Byddai y Parchn. Daniel Evans a Richard Humphreys yn myned i bregethu ar hyd ffermdai Uwch Artro. Un tro yr oedd Mr. Humphreys yn pregethu yn Cwm mawr, a chedwid society ar ol. Yr oedd y wraig, Gaenor Llwyd, yn wraig grefyddol a deallus. Ar ol ymddiddan â hi, aeth Mr. Humphreys i ofyn gair i Sion Llwyd. Ceisiai yn yr ymddiddan arwain ychydig ymlaen. Dywedai "Mae Duw wedi gwneyd y naill beth ar gyfer y llall; lle y mae anfantais mae yno fantais ar gyfer hyny." "Oes yn siwr," atebai Sion Llwyd, "felly y mae hi yma, mae y dŵr yn agos iawn a'r mawn yn bell ryfeddol." "Ie," meddai Mr. Humphreys, "mae yn