Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/377

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gynhesach arnom ni i lawr acw, mae genych chwithau gyflawnder o ddefnyddiau tân." "Oes yn siwr," dywedai Sion Llwyd drachefn, "mae yma gyflawnder o fawn eleni, a chynhauaf rhagorol arnynt." Gadawodd Mr. Humphreys ef yn y fan yna, methodd ei godi yn uwch na'r mawn. Hen gymeriad digrif oedd Sion Llwyd. Un tro dywedai wrth gyfaill yn nrws y capel, "Pregeth dda ragorol, onide S———; wyt ti yn myned i'r ffair yfory, dywed?" Yr oedd Methodistiaeth yn uwch o lawer yn Uwch Artro y pryd hyny nag yn awr. Yr oedd llawer o'r penau teuluoedd yn Fethodistiaid da, a phob un yn gymeriad ar ei ben ei hun. Y rhai a enwyd, ynghyd ag Evan Parry, Dolwreiddiog, Ellis William, Cwm bychan, ac Ellis Thomas, Cae-bwlch-wrach, oeddynt y rhai mwyaf blaenllaw. Y mae hen athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul yn deilwng o goffhad. Griffith Sion, Llwynionfychan, a fu yn ffyddlawn yn dysgu plant yn nghongl y sêt fawr am haner can' mlynedd. Nid oedd llawer o ragoriaeth yn yr hen wr, ond perthynai iddo y rhagoriaeth a esyd y Gwaredwr yn uchaf oll, sef ffyddlondeb. Dywedir i William Richard, Tyddyn-y-pandy, hefyd fod yn athraw plant ffyddlon, er na fedrai ddarllen ei hun. William Dafydd, yr Efail, oedd un o'r athrawon ffyddlonaf. Coffheir am un amgylchiad mewn cysylltiad â William Dafydd gwerth ei gadw. Fel y crybwyllwyd, byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu gwneuthur yn yr hen gapel, gwnaed un yn y fan yr arferai William Dafydd eistedd. Digiodd yntau yn aruthr, a bu am ddwy flynedd heb ddyfod i'r capel, ond deuai i'r ysgol yn gyson at ei ddosbarth. O'r diwedd, galwyd cyfarfod brodyr i geisio dwyn yr achos i derfyniad. Ond safai W. D. at ei farn benderfynol ei hun. Dywedai ei fod yn cael gwedd wyneb yr Arglwydd, a bod yn gas ganddo bobl y capel. "Na, yn siwr," dywedai Rees Jones, "nid ydyw hyny ddim yn bod, cael gwedd wyneb Duw, a bod heb garu y brodyr, mae hyny yn armhosibl." Pa fodd bynag, ildiai W. D. ddim.